Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dewisiadau eraill yn lle cofrestru fel elusen

Nid sefydlu elusen yw'r dewis gorau bob tro ac weithiau, dydy hynny ddim yn bosibl dan y gyfraith. Os nad yw eich mudiad yn cyflawni meini prawf sylfaenol elusen gofrestredig, mae sawl dewis arall ar gael, yn dibynnu ar beth rydych chi am ei wneud.

Mentrau cymdeithasol


Fe all mentrau cymdeithasol amrywio o grwpiau anffurfiol i gwmnïau cofrestredig. Bydd y rhan fwyaf o fentrau cymdeithasol yn defnyddio eu helw er budd pobl eraill yn hytrach na'r sefydliad ei hun neu eu budd-ddalwyr.

Os ydych chi am wella'ch cymuned

Os ydych chi'n sefydlu grŵp i wella'ch cymuned, mae'n bosibl y byddwch chi'n gallu rhannu adnoddau megis swyddfeydd neu staff gyda mudiad arall. Mae llawer o sefydliadau hefyd sy'n bodoli eisoes a fyddai'n gwerthfawrogi cael eich help os oes gennych amser ar eich dwylo.

Fe allwch gael gwybod am y cyfleoedd i wirfoddoli sydd ar gael yn eich ardal a thramor drwy ddarllen 'Dod o hyd i gyfle i wirfoddoli'. Mae'n cynnwys dolen at y gronfa ddata do-it.org y gallwch ei defnyddio i deipio'ch cod post a chael gwybod am gyfleoedd i wirfoddol gyda grwpiau yn eich ardal.

I ddarllen astudiaethau achos am sut mae gwirfoddoli yn y gymuned wedi dwyn budd i wirfoddolwyr a'r rhai y maen nhw'n eu helpu, darllenwch 'Gwirfoddoli ar gyfer prosiect cymunedol'.

Mae gan Gyngor Cenedlaethol y Mudiadau Gwirfoddol gyfeiriadur cynhwysfawr o fudiadau ambarél sy'n cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i fudiadau gwirfoddol.

Os oes gan eich mudiad nodau tebyg i elusen fwy, fe allech ystyried dod yn gangen leol o'r elusen honno. Er enghraifft, mae Mind, yr elusen iechyd meddwl, yn gweithio drwy rwydwaith o grwpiau lleol.

Codi arian ar gyfer cronfa goffa

Os ydych chi am godi arian at achos penodol neu er cof am rywun, does dim rhaid i chi sefydlu elusen o'r gwraidd. Efallai bod mudiad yn bodoli eisoes sy'n codi arian yn yr un maes neu at yr achos da. Mae oddeutu 190,000 o elusennau wedi'u cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau. Fe allwch chi chwilio'r gofrestr ar-lein.

Os oes gennych dros £10,000 i'w gyfrannu, mae'r Sefydliad Cymorth Elusennol (CAF) yn caniatáu i chi sefydlu Ymddiriedolaeth CAF, system syml, sydd i raddau fel petai gennych chi'ch ymddiriedolaeth elusennol eich hun, ond heb orfod penodi ymddiriedolwyr na chofrestru'n elusen.

Codi arian at drychineb naturiol

Os oes trychineb naturiol wedi digwydd a chithau am gyfrannu arian, fe allech ystyried rhoi i asiantaeth cymorth neu i fudiad ambarél megis y Pwyllgor Argyfwng Trychineb, sy'n gweithio gyda nifer o fudiadau yn y DU i sicrhau bod y rhoddion a ddaw gan unigolion a grwpiau'n cael eu defnyddio hyd yr eithaf.

Additional links

Together We Can

Gwybodaeth a chyngor i’ch helpu i ddod yn rhan o’ch cymuned, yn cynnwys astudiaethau achos, nawdd ac astudiaeth

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU