P'un ai a ydych yn chwilio am ychydig o oriau ar benwythnos neu am gyfle i wneud cyfraniad mawr i grŵp cymunedol lleol, dewch i wybod am y cyfleoedd sydd ar gael yn eich ardal.
Gallwch chwilio am filoedd o gyfleoedd a gwneud cais ar-lein drwy ddefnyddio'r gronfa ddata do-it.org. Rydych yn dewis y math o waith gwirfoddol y mae gennych ddiddordeb ynddo a theipio'ch cod post i gael rhestr o gyfleoedd yn eich ardal.
Mae canolfannau gwirfoddoli yn cydlynu ac yn hysbysebu cyfleoedd i wirfoddoli yn eich ardal chi. Gallwch ddod o hyd i'ch canolfan gwirfoddoli agosaf ar wefan Do-it.org.
Gallai cysylltu â'ch cyngor lleol fod yn ffordd ddefnyddiol o gael gwybod am brosiectau cymunedol yn eich ardal chi. Gallwch hefyd ymweld â'ch llyfrgell leol a fydd yn cadw gwybodaeth am grwpiau lleol, elusennau ac unrhyw gyfleoedd tymhorol.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn sefydlu cynllun yn y gwaith, darllenwch 'Sefydlu cynllun gwirfoddoli yn y gwaith' sydd ar gael o'r ddolen isod.
Os hoffech wirfoddoli dramor, gall y ddau fudiad isod roi'r cyfle i chi wneud hynny.
Gwasanaethau Gwirfoddol Dramor
Os hoffech wirfoddoli i weithio dramor, elusen ddatblygu ryngwladol yw Gwasanaethau Gwirfoddoli Dramor (VSO) sy'n ceisio cyfuno sgiliau pobl a'u cefndir proffesiynol gyda'r angen am wirfoddolwyr drwy'r byd. Gall gwirfoddolwyr fod rhwng 18 a 75 oed. Mae'r rhan fwyaf o leoliadau am ddwy flynedd, ond gallant fod cyn lleied â mis.
Gwirfoddoli ar gyfer pobl ifanc rhwng 18 a 25 oed
Os ydych chi rhwng 18 a 25 oed a'ch bod am wirfoddoli i weithio dramor, mae 'Platform2' yn cynnig y cyfle i chi wirfoddoli mewn gwlad sy'n datblygu ac yna dychwelyd i rannu eich profiadau â phobl eraill. Mae wedi'i anelu at bobl ifanc o'r DU na fyddent fel arall yn cael y cyfle i wirfoddoli dramor, felly caiff ei ariannu'n llwyr ac mae am ddim i'r gwirfoddolwr.
Mae'r lleoliadau yn 10 wythnos o hyd ac mae gwirfoddolwyr yn gweithio ar brosiectau cymunedol mewn nifer o wledydd sy'n datblygu gan gynnwys De Affrica, Ghana, India a Pheriw.