Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwirfoddoli gwyrdd

Ceir llawer o gyfleoedd i wneud eich rhan er mwyn mynd i'r afael â phroblemau amgylcheddol a gwella eich ardal leol. Dewch i ddysgu am wirfoddoli gwyrdd lle rydych chi'n byw, a chael gwybod sut i sefydlu eich prosiect amgylcheddol lleol eich hun.

Mathau o wirfoddoli 'gwyrdd'

Mae pobl o bob cefndir yn cymryd camau bach yn lleol. Gyda'i gilydd, mae'r camau bach hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr yn fyd-eang.

Gall gwirfoddoli wneud gwahaniaeth, a gellir mynd ati i wneud hynny mewn llawer o wahanol ffyrdd. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith cymunedol a chynlluniau sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • cadwraeth bywyd gwyllt
  • prosiectau addysgol sy'n ymwneud â'r amgylchedd
  • cefnogi gwaith cymorth rhyngwladol
  • ailgylchu
  • bod yn rhan o grŵp cymunedol lleol sy'n gweithio ar faterion amgylcheddol neu fyd-eang

Dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli gwyrdd

  • defnyddiwch y chwilotwr cod post ar wefan Datblygu Cynaliadwy
  • mae gwefan Volunteering England yn cynnwys manylion eich canolfan wirfoddoli leol, a fydd yn rhoi gwybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli lleol
  • ewch ati i helpu gyda phrosiectau cadwraeth yn eich cymuned, a gwella'ch iechyd drwy ymuno â Champfa Werdd rad ac am ddim gydag Ymddiriedolaeth Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prydain (BTCV)
  • mae gwefan BTCV hefyd yn rhoi gwybod i chi am wyliau gwirfoddoli ym maes cadwraeth a sut i ymuno â grŵp cadwraeth lleol

Cynlluniau gwyrdd lleol

Mae yna nifer o gynlluniau a phrosiectau lleol yn y DU sy'n annog pobl a busnesau i fod yn fwy gwyrdd. Er enghraifft, gallwch fod yn 'Warcheidwad Ynni' gyda Chyngor Dinas Leeds neu ganfod sut mae rhoddi eitemau nad oes mo'u heisiau arnoch gyda Chynghorau Bwrdeistref Basingstoke a Deane.

Gwirfoddoli yng nghefn gwlad

Os oes gennych ddiddordeb neilltuol mewn gwirfoddoli yng nghefn gwlad, cliciwch ar y ddolen isod i fynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael rhagor o wybodaeth.

Dod yn Hyrwyddwr Cymunedol

Mae gan y rhaglen Mae Pob Gweithred yn Cyfri Gynllun Hyrwyddwyr Cymunedol. Mae Hyrwyddwyr Cymunedol yn neilltuo ychydig o amser bob mis i helpu eraill i gymryd camau i wella'u cymuned a'r amgylchedd. Bydd Hyrwyddwyr Cymunedol yn cael hyfforddiant a chyngor drwy'r cynllun Mae Pob Gweithred yn Cyfri, ac wedyn yn helpu grwpiau cymunedol i ddatblygu prosiectau lleol.

Ymuno ag eraill i ddod yn fwy gwyrdd

Ymunwch â'ch ffrindiau neu'ch cymdogion i weld beth allwch chi ei wneud i wella'r amgylchedd. Mae gan Global Action Plan (GAP) raglen o'r enw EcoDimau, sy'n eich helpu i sefydlu grŵp yn eich cymuned leol, neu gyda ffrindiau neu gyd-weithwyr.

Grŵp o bedwar cartref o leiaf yw EcoDîm sy'n cyfarfod bob mis i annog y naill a'r llall i sicrhau ffordd o fyw fwy gwyrdd ac i gymharu'u cynnydd. Trwy gymryd camau bach ymhob cartref, gallwch helpu i leihau newid yn yr hinsawdd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU