Mae'r llywodraeth yn gwneud cynlluniau ar gyfer cael gwared â gwastraff ymbelydrol yn ddaearegol - sy'n golygu ei gladdu o dan y ddaear. Gwahoddir cymunedau lleol i gymryd rhan mewn trafodaethau ar y posibilrwydd o gynnal cyfleuster gwaredu gwastraff.
Daw gwastraff ymbelydrol y DU o amrywiaeth o wahanol raglenni niwclear (fel gorsafoedd pŵer niwclear a llongau tanfor niwclear):
Mae'n bosibl hefyd y caiff gorsafoedd pŵer niwclear newydd eu hadeiladu, a bydd angen rheoli'r gwastraff o'r rheini.
Gall gwastraff ymbelydrol fod yn beryglus i bobl a'r amgylchedd am gannoedd ar filoedd o flynyddoedd os na chaiff ei reoli'n ddiogel.
Y dull hirdymor gorau o gael gwared â gwastraff ymbelydrol yw gwaredu daearegol - sy'n golygu ei gladdu o dan y ddaear.
Caiff y gwastraff ei roi yn ddwfn y tu mewn i haenau addas o graig er mwyn sicrhau na fydd symiau sylweddol o ymbelydredd yn cyrraedd yr wyneb byth.
Mae cyfleuster storio dan ddaear arbennig wedi'i gynllunio fel bod y rhwystr daearegol naturiol yn gweithio gyda phecynnu'r gwastraff er mwyn lleihau'r broses o atal ymbelydredd rhag dianc ar lefel ddi-nod.
Bydd angen i gyfleuster gwaredu fodloni safonau diogelwch ac amgylcheddol uchel.
Bydd y broses o reoli'r cyfleuster yn cael ei rheoleiddio'n annibynnol ac yn llym gan gyrff fel:
Bydd yn rhaid cael caniatâd cynllunio gan yr awdurdod cynllunio perthnasol hefyd cyn adeiladu safle.
Bydd y broses o adeiladu a gweithredu cyfleuster gwaredu yn brosiect biliynau o bunnoedd, technolegol uchel a fydd:
Hefyd, efallai y bydd buddsoddiad a buddiannau eraill i gymuned sy'n gwirfoddoli, y cytunir arnynt gan y llywodraeth. Caiff hyn ei ddatblygu a'i gytuno arno rhwng y gymuned, y llywodraeth a'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, a bydd yn adlewyrchu anghenion y gymuned.
Mynegi diddordeb
Gall unrhyw gymuned fynegi diddordeb mewn cymryd rhan mewn trafodaethau gyda'r llywodraeth, heb wneud unrhyw ymrwymiad. Bydd sefydliadau fel awdurdodau lleol fwy na thebyg yn cymryd rhan drwy gysylltu o'r fath â'r llywodraeth.
Bydd hwn yn gyfle i gael gwybod mwy am:
Asesiadau safle a thrafodaethau cymunedol
Unwaith y bydd cymuned wedi mynegi diddordeb, gofynnir i Arolwg Daearegol Prydain wneud asesiad o'r ardal er mwyn cael gwared ag unrhyw safleoedd nad ydynt yn amlwg yn addas.
Ar yr un pryd, byddai'r gymuned yn cynnal trafodaethau pellach gyda'r bobl leol er mwyn sicrhau yr eir i'r afael â chwestiynau a phryderon am gyfleuster gwaredu.
Cymryd rhan pellach yn y broses leoli
Yna gallai'r gymuned benderfynu gwneud ymrwymiad mwy ffurfiol i gymryd mwy o ran yn y broses leoli. Ni fyddai hyn yn golygu ei bod yn gorfod cynnal safle - yr unig beth y mae'n ei olygu yw y bydd yn cymryd rhan mewn trafodaethau pellach gyda'r llywodraeth a'r Asiantaeth Datgomisiynu Niwclear.
Cefnogaeth yn ystod y broses
Bydd y llywodraeth yn rhoi cefnogaeth tuag at gostau y gallai'r gymuned orfod eu talu am fod yn rhan o'r broses. Gallai hyn gynnwys ariannu'r rheini sy'n rheoli'r broses leol, ariannu gwybodaeth gyhoeddus ac ariannu ymgynghoriad cymunedol.
Canfod safle
Tra cynhelir y trafodaethau gyda'r gymuned, bydd mwy a mwy o arolygon ac asesiadau safleoedd manwl yn cael eu cynnal, er mwyn ymchwilio i'r safleoedd hynny sydd fwyaf tebygol o fod yn addas. Bydd hyn yn arwain at ganfod safle gorau, y cytunir arno lle gellir dechrau ar y gwaith o'i ddatblygu.