Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dod yn wirfoddolwr

Gellir cael llawer o foddhad o wirfoddoli a bydd yn eich helpu i roi 'rhywbeth yn ôl' i'ch cymuned. Gall gwirfoddolwyr ddewis o blith miloedd o wahanol gyfleoedd; o helpu ar fferm ddinas leol i ddod yn arweinydd seminar gydag elusen addysg fusnes.

Rhesymau dros wirfoddoli

Yn aml, bydd angen gwirfoddolwyr ar elusennau a grwpiau cymunedol i'w helpu nhw wella bywydau pobl eraill. Ond gall gwirfoddolwyr wella'u dyfodol eu hunain a'u hunan-barch trwy ddysgu sgiliau newydd a thrwy gael diddordeb newydd.

Mae llawer o bobl yn cyrraedd pwynt yn eu gyrfa lle maent am 'roi rhywbeth yn ôl' i'w cymuned - neu rannu'u sgiliau. Efallai hefyd y dewch o hyd i yrfa newydd sbon.

Wyddoch chi y byddai dros 70% o gyflogwyr yn cyflogi ymgeisydd gyda phrofiad gwirfoddoli dros rywun nad yw erioed wedi gwirfoddoli? Trwy wneud ryw ddwy awr yr wythnos, gallech wella'ch rhagolygon am waith a gwella'ch sgiliau.

Gallwch hefyd wneud ffrindiau newydd, profi sialensiau newydd a gwella'ch hyder.

Sut i ddod o hyd swydd wirfoddoli

Os oes gennych ddiddordeb penodol mewn gwirfoddoli yng nghefn gwlad, cliciwch ar y ddolen isod i fynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael rhagor o wybodaeth.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU