Gallwch helpu i wella'ch ardal leol a bywydau pobl leol drwy wirfoddoli i weithio ar brosiectau yn y gymuned.
Gall neilltuo awr neu ddwy yr wythnos yn unig wneud gwahaniaeth go iawn i'ch ardal leol. O helpu i redeg cynllun ailgylchu yn y gymuned i ddarparu cefnogaeth ar gyfer materion iechyd lleol, mae sawl ffordd o helpu.
Mae llawer o brosiectau lleol hefyd yn darparu opsiynau 'heb-ymrwymiad' i bobl heb fawr o amser. Er enghraifft, os bydd gennych ddiwrnod yn rhydd weithiau, gallwch ymuno â phrosiect clirio llwybrau a threulio ambell i awr yn helpu. Does dim rhaid cael sgiliau na hyfforddiant blaenorol ac mae pawb yn cyfrannu at y tasgau.
Mae gwefan Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymunedol yn darparu gwybodaeth am yr hyn sydd ar gael ac enghreifftiau o brosiectau lleol strwythuredig. Gallwch hefyd gysylltu â'ch cyngor lleol i gael gwybodaeth am brosiectau sy'n cael eu cefnogi yn eich ardal.
Mae llawer o wirfoddolwyr cymunedol yn dewis prosiectau lleol er mwyn iddynt allu gweld y gwahaniaeth y mae eu hamser yn ei wneud. Gall newidiadau ffisegol, megis gwella parciau a mannau agored ddigwydd yn syth a gwneud yr amgylchedd yn lle gwell i fyw. Gall gwirfoddolwyr weld newidiadau cymdeithasol hefyd, o helpu'r rhai sydd dan anfantais yn gymdeithasol i helpu i fagu hyder a sgiliau.
Un o'r ffyrdd gorau o gael gwybod am wirfoddoli yw darllen astudiaethau achos gan bobl sydd eisoes yn gwirfoddoli.
Iechyd dynion
Cafodd Richard, 43, yr awydd i wirfoddoli pan oedd yn gweithio yn y diwydiant adeiladu. Ar ôl sylweddoli bod llawer o bobl angen gwneud gwaith adeiladu hanfodol ar eu cartrefi, ond heb allu fforddio'r gwaith, penderfynodd roi o leiaf un diwrnod y flwyddyn i weithio am ddim.
Yn ddiweddarach, ar ôl cael problemau iechyd ei hun, cynorthwyodd i sefydlu Wythnos Genedlaethol Iechyd Dynion a llawer o brosiectau eraill, gan gynnwys Pride Not Prejudice, digwyddiad blynyddol sy'n dwyn ynghyd gymunedau Sipsiwn a Chrwydriaid a'r heddlu.
Concrete to Coriander
Mae Sheby'n gwirfoddoli ar y prosiect "Concrete to Coriander"
, prosiect gan grŵp Amgylchedd CSV a Chlwb Garddio Merched Bangladesh ym Mharc Small Heath, Birmingham. Mae'r prosiect yn gadael i bobl ddefnyddio hen erddi, llawer ohonynt wedi mynd yn wyllt ers amser maith, fel rhandiroedd er mwyn tyfu ffrwythau a llysiau.
"Dechreuais wirfoddoli ar y prosiect bedair blynedd yn ôl. Roeddwn yn gwybod amdano oherwydd mai mam oedd Cadeirydd y prosiect. Erbyn hyn mae'n rhywbeth y mae fy nheulu cyfan yn ei fwynhau. Mae hyd yn oed fy mhlant yn mynd yno yn ystod gwyliau'r ysgol ac maen nhw wrth eu boddau."
"Mae gwirfoddoli gyda Concrete to Coriander yn gyfle gwych i gyfarfod â phobl o'r gymuned ac i gael sgwrs a hwyl ymysg ein gilydd. Mae'n ffordd dda hefyd o gadw’n ffit ac iach."