Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyngor am gŵn sydd ar goll, cofrestru cŵn a help gyda gofalu am anifail anwes

Mae perchen ar gi yn gyfrifoldeb. Mae'n rhaid cadw'ch ci yn iach ac mae angen rhyw ffordd o adnabod y ci os aiff ar goll.

Cŵn sy'n mynd ar goll

Yn ôl y gyfraith, rhaid i'ch ci wisgo tag pan fydd mewn man cyhoeddus. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gellir dychwelyd eich ci os aiff ar goll.

Os bydd eich cyngor lleol yn dod o hyd i'ch ci, yn aml iawn mi wnân nhw ei ddychwelyd heb godi ffi arnoch chi. Fodd bynnag, dim ond os bydd gan y ci datu, microsglodyn neu ei fod yn gwisgo tag y bydd hyn yn bosib.

Os bydd eich cyngor yn dal ci sy'n crwydro ac nad ydyn nhw'n gallu dod o hyd i'r perchennog, bydd y ci yn mynd i gartref cun. Byddan nhw'n cadw'r ci a chi fydd yn talu am hynny. Os na ewch chi i nôl eich ci o fewn saith niwrnod, gallech golli'r hawl i'w gael yn ôl, a cheisir dod o hyd i gartref newydd iddo.

Cofrestru cŵn

Efallai yr hoffech chi ymuno â chynllun cofrestru cun lle caiff eich ci datu, tag neu ficrosglodyn yn cynnwys rhif sy'n cyfateb i fanylion y perchennog. Mae hyn yn helpu i ddod o hyd i anifeiliaid anwes sydd ar goll neu wedi crwydro.

Mae'r rhan fwyaf o filfeddygon yn cynnig gwasanaeth o'r fath erbyn hyn.

Holi am gi sydd ar goll

Bydd eich cyngor yn cadw cofnod o gun y daethpwyd o hyd iddynt yn crwydro. Dylech hefyd gysylltu â'r llochesi anifeiliaid lleol i weld a oes rhywun wedi mynd â'ch ci yno.

Help gyda gofalu am anifail anwes

Os ydych chi'n wynebu problemau wrth edrych ar ôl eich ci, mae'n bwysig eich bod yn defnyddio'r amrywiol rwydweithiau ac elusennau cymorth gydag anifeiliaid sydd ar gael.

Er enghraifft, os byddwch chi'n mynd i'r ysbyty bydd angen i rywun edrych ar ôl eich ci.

Y dewis mwyaf cyffredin yw gofyn i aelod o'r teulu, cymydog neu ffrind da am gymorth. Os nad yw hynny'n bosib, ar gyfer gŵn a chathod, bydd yn rhaid i chi gysylltu â lle sy'n gofalu dros dro am gŵn neu gathod. Dylech allu gweld manylion y rhain yn eich llyfr ffôn lleol.

Gallech ofyn am awgrymiadau gan eich milfeddyg lleol neu eich Warden Cŵn lleol.

Efallai y gall y mudiad canlynol eich helpu:

  • Ymddiriedolaeth Cinnamon - mudiad elusennol (yng Nghernyw) sydd â 4,500 o wirfoddolwyr cofrestredig ledled y DU. Efallai y gallan nhw eich helpu i ddod o hyd i ofal ar gyfer eich anifail anwes os bydd yn rhaid i chi fynd i'r ysbyty.

Gallwch hefyd gysylltu â Blue Cross neu'r RSPCA os ydych yn cael trafferth talu ffioedd y milfeddyg.

Os ydych chi'n teimlo na allwch chi ofalu am eich ci mwyach, rhaid i chi gysylltu â lloches anifail lleol neu â'r RSPCA. Fe wnân nhw eu gorau glas i ddod o hyd i gartref newydd i'ch ci neu'ch anifail.

Gallwch hefyd gysylltu â Chartref Cathod a Chŵn Battersea am ragor o wybodaeth a chyngor ar les a gofal cathod a chŵn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU