Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lles anifeiliaid a chyngor

Ceir ystod eang o ddeddfwriaethau yn y DU i amddiffyn iechyd a lles anifeiliaid dof, anifeiliaid sy'n cael eu ffermio ac anifeiliaid gwyllt. Os ydych chi'n berchen anifail neu'n cadw un, mae gennych chi ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau y diwellir ei anghenion o ran lles.

Deddf Lles Anifeiliaid 2006

Dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid, mae'n erbyn y gyfraith i fod yn greulon tuag at anifail, a rhaid i chi sicrhau y diwellir anghenion anifail o ran lles.

Mae’r anghenion hyn yn cynnwys:

  • amgylchedd addas (lle i fyw)
  • deiet addas
  • dangos ymddygiad normal
  • byw gydag anifeiliaid eraill neu ar wahân iddynt (os oes angen)
  • cael eu hamddiffyn rhag poen, anafiadau, dioddef ac afiechyd

Bellach, rhaid i chi fod yn 16 mlwydd oed i gael prynu anifail. Mae'r Ddeddf hefyd yn gwahardd rhoi anifeiliaid yn wobrau i blant dan 16 sydd ar eu pennau eu hunain (heb oedolyn).

Os ydych chi'n greulon tuag at anifail, neu os nad ydych yn darparu ar gyfer ei anghenion o ran lles, gellid eich gwahardd rhag bod yn berchen ar anifeiliaid, eich dirwyo hyd at £20,000, a/neu eich anfon i'r carchar.

Pwy sy'n gorfodi lles anifeiliaid?

Dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid, mae'n bosibl i unrhyw un gychwyn achos troseddol os oes rheswm i gredu bod dioddef diangen wedi'i achosi neu os nad yw anghenion lles anifail wedi'u diwallu.

Fodd bynnag, dim ond cynghorau lleol neu'r heddlu sydd â phwerau mynediad ac atafaelu ffurfiol dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am les anifeiliaid.

Creulondeb tuag at anifeiliaid

Os ydych chi'n amau bod anifail yn cael ei esgeuluso neu'n cael ei drin yn greulon, gallwch gysylltu â mudiadau preifat megis y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA) neu'r Gynghrair Ryngwladol er Amddiffyn Ceffylau (ILPH).

Gall y mudiadau preifat hyn ofyn i'r awdurdodau lleol neu'r heddlu eu helpu os bydd angen, er enghraifft, os bydd angen iddyn nhw gael mynediad i eiddo neu eu bod yn cael eu bygwth yn gorfforol.

Anifeiliaid sy'n crwydro

Yn unol â Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, mae dyletswydd ar eich cyngor i ddelio â chŵn sy'n crwydro. Ni fydd, fodd bynnag, yn delio â chathod sy'n crwydro ac maen nhw fel arfer yn cyfeirio pobl at y Gymdeithas Gwarchod Cathod.

Os ydych chi'n poeni am anifail sy'n crwydro, gallwch ffonio llinell gymorth RSPCA. Lle bo angen, daw person sydd wedi'i hyfforddi i drin anifeiliaid i nôl yr anifail a'i roi mewn lloches anifeiliaid ar gyfer dod o hyd i gartref newydd.

Gallwch gysylltu â'r RSPCA drwy ffonio 0870 5555 999 neu gallwch ymweld â'u gwefan drwy ddefnyddio'r ddolen isod.

Trwyddedau anifeiliaid

Bydd eich cyngor yn rhoi'r trwyddedau canlynol i helpu i reoleiddio lles anifeiliaid:

  • canolfannau marchogaeth
  • canolfannau bridio cŵn
  • canolfannau lletya anifeiliaid
  • siopau anifeiliaid anwes

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a'i hasiantaethau yn gyfrifol am y canlynol:

  • strategaeth genedlaethol ar iechyd a lles anifeiliaid
  • symudiadau anifeiliaid
  • lles anifeiliaid ar ffermydd, mewn marchnadoedd a lladd-dai
  • Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes
  • masnachu anifeiliaid yn rhyngwladol
  • afiechydon ymhlith anifeiliaid - rheoli a goruchwylio, y gynddaredd, BSE, y diciâu, clefyd y crafu, clwy'r traed a'r genau
  • sgil-gynhyrchion anifeiliaid
  • gwarchod bywyd gwyllt a bioamrywiaeth
  • troseddau’n ymwneud â bywyd gwyllt

Cysylltwch â Llinell Gymorth Defra 08459 335577 i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn a wnânt neu ymwelwch â'u gwefan drwy ddefnyddio'r ddolen isod.

Y gynddaredd

Nid oes achosion o'r gynddaredd wedi bod yn y DU ers sawl blwyddyn.

Mae'n rhaid i bob anifail a all ddal y gynddaredd ac sy'n dod i'r DU dreulio chwe mis mewn cwarantîn, oni bai eu bod yn cyrraedd dan Gynllun Teithio Anifeiliaid Anwes ac yn cydymffurfio â holl amodau'r cynllun hwnnw.

Mae gan Defra gynllun wrth gefn cenedlaethol ar gyfer delio ag unrhyw bosibiliadau o achosion o'r gynddaredd.

I gael rhagor o wybodaeth am y gynddaredd, ewch i wefan Defra.

Allweddumynediad llywodraeth y DU