Gall cŵn sydd ar goll a chŵn sy'n crwydro fod yn beryglus, a gallant beri pryder i bobl sy'n defnyddio strydoedd a ffyrdd, ond mae help ar gael i ymdopi â phroblemau.
Os dewch o hyd i gi sy'n crwydro, cysylltwch â'ch cyngor ac fe ddôn nhw i gasglu'r ci (os ydyn nhw'n gwybod o ble daeth y ci).
Fel arall, gallwch fynd â'r ci i'r swyddfa heddlu agosaf i ble daethoch chi o hyd i'r ci.
I roi gwybod am gi sy'n crwydro, efallai y gofynnir i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:
Os ydych chi'n cwyno am gŵn sy'n crwydro ar dir ysgol neu'n amharu ar lif traffig, bydd eich cyngor yn delio â hyn ar fyrder.
Mae'n drosedd peidio â rhoi gwybod am gi sy'n crwydro.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Nod y gwasanaeth warden cŵn yw delio â phroblemau a achosir gan y pedair prif elfen sy'n gysylltiedig â pherchnogion cŵn anghyfrifol:
Os caiff ci ei ddal yn crwydro, mae wardeniaid cŵn yn ceisio dod o hyd i'r perchnogion gan roi gwybod iddyn nhw ble y cânt ddod i gasglu eu cŵn. Cedwir unrhyw gi sy'n crwydro yn ddiogel am hyd at saith niwrnod.
Rhoddir sylw ar fyrder i unrhyw gŵyn am gŵn sy'n crwydro ar dir ysgol neu'n amharu ar lif traffig. Rhoddir sylw i bob cwyn am gŵn cyn gynted â phosibl.
Os na all y warden cŵn ddelio â chwyn, fe gaiff ei throsglwyddo i'r asiantaeth briodol (er enghraifft, yr Heddlu neu RSPCA).
Bydd y gwasanaeth warden cŵn yn:
"fagiau cŵn", sydd wedi ennill gwobrau lu, i berchnogion cŵn - (efallai y codir tâl am hyn)
Defnyddiwch y ddolen isod i gael gwybod mwy am y gyfraith a pherchen ar gi.