Mae fy nghi'n cyfarth trwy'r amser
Mae cŵn yn cyfarth yn naturiol - fodd bynnag, mae cyfarth, nadu neu udo cyson yn gallu tarfu arnoch chi a'ch cymdogion a'ch gwylltio ac nid yw'n ymddygiad normal i gi.
Pam fod cŵn yn cyfarth?
Oherwydd eu natur, mae'n annaturiol i gun fod ar eu pennau eu hunain. Mae angen sicrwydd ei grup teulu ar eich ci. Chi fydd arweinydd a grup teulu'r ci a gall unrhyw absenoldeb hirdymor ei wneud yn anniddig gan arwain o bosib at broblemau ymddygiad gan gynnwys cyfarth drwy'r amser.
Dyma'r prif resymau pam fod cun yn cyfarth:
- teimlo'n ynysig ac unig
- diflastod neu rwystredigaeth
- yn ceisio sylw
- amddiffyn ei diriogaeth
- problemau meddygol
Hyfforddiant/Training
Ceisiwch bob amser ddysgu sgiliau cymdeithasol da i'ch ci pan fydd yn ifanc. Wrth gael hyfforddiant da, gall eich ci wahaniaethu rhwng ymwelwyr a thresmaswyr a bydd hefyd yn ei ddysgu i beidio â chyfarth ar wrthrychau anghyfarwydd. Cofiwch roi gwobr i'ch ci am ymddwyn yn dda fel ei fod yn cysylltu tasgau penodol gyda phrofiad pleserus.
Os bydd angen help arnoch i hyfforddi'ch ci, dylech gysylltu â hyfforddwr cun lleol. Fe'u rhestrir yn y Yellow Pages. Efallai bod clwb cun yn eich ardal hefyd sy'n cynnal sesiynau hyfforddi wythnosol mewn grup. Gall hyn helpu i ddysgu'ch ci sut i ymddwyn yng nghwmni cun eraill a chewch gyfle i gael cyngor gan berchnogion eraill.
Cysylltwch â'ch cyngor lleol neu filfeddyg i gael rhagor o wybodaeth am ddosbarthiadau yn eich ardal leol.
Rhoi cynnig ar bethau syml
Dydy rhai cun ddim eisiau i chi fynd allan. Ceisiwch gael eich ci i ddod i arfer â'r syniad trwy ddefnyddio'r dulliau hyfforddi canlynol:
- gadael y tw ar wahanol amseroedd - bydd hyn yn ei gwneud yn anos i'ch ci ragweld pryd y byddwch chi'n gadael, sy'n gallu arwain at gyfarth
- peidio â gwneud ffws o'r ci pan fyddwch chi'n ei adael
- osgoi gwisgo'ch côt neu ysgwyd eich allweddi o flaen eich ci - mae hyn yn dweud wrtho eich bod ar fin gadael a gall ddechrau cyfarth
- ceisio rhoi'r ci ar ei ben ei hun mewn ystafell arall am ychydig funudau, yna'n raddol cynyddu'r amser y byddwch chi'n ei adael nes ei fod yn dawel am gyfnod - ewch yn ôl ato pan mae'n dawel a'i ganmol
- mae rhai cun yn cyfarth am eu bod am ymuno â'r hyn sy'n digwydd y tu allan - os mai hyn yw'r broblem, ceisiwch adael eich ci mewn man lle na all weld y tu allan
- bydd rhai cun yn setlo wrth glywed llais person felly efallai y bydd gadael y radio neu'r teledu ymlaen yn ddistaw yn gymorth
- ceisio peidio â gadael eich ci am gyfnodau hir, ond os oes rhaid i chi, gofynnwch i ffrind neu gymydog daro golwg arno a mynd â'r ci am dro neu ei adael yn rhydd yn yr ardd, os oes gennych chi un
- mae drws ci yn ddefnyddiol dros ben gan ei fod yn gadael i'r ci fynd i'r ardd pan fyddwch chi ddim yno
- gwneud yn siur bod eich ci yn cael ymarfer corff cyn i chi fynd allan - mae ci blinedig yn cyfarth llai
- os yw eich ci yn cyfarth pan mae wedi'i gyffroi, peidiwch â chwarae gyda'r ci ar adegau gwrth-gymdeithasol megis yn hwyr yn y nos
- os oes rhaid i chi adael eich ci am gyfnodau hir, rhowch fwyd ac ymarfer corff iddo cyn i chi fynd allan a gadael dur ffres iddo yfed
Gwnewch yn siur:
- bod ei wely neu ei fasged yn gyfforddus a ddim mewn drafft neu yn llygad yr haul
- eich bod yn gadael asgwrn mawr iddo gnoi a rhai o'i hoff deganau iddo chwarae gyda nhw
- bod yr ystafell ddim yn rhy boeth nac yn rhy oer a bod 'na ddigon o awyr iach i'r ci
- os na fyddwch chi'n dod adref nes ar ôl iddi dywyllu, naill ai gadewch olau ymlaen neu defnyddiwch olau nos sy'n dod ymlaen yn awtomatig pan mae'n tywyllu
Os byddwch chi'n gadael eich ci y tu allan trwy'r dydd:
- ceisiwch beidio â rhoi ei gwt ger ffens cymydog lle caiff y ci ei demtio i gyfarth
- sicrhewch fod yr ardd yn gwbl ddiogel, i rwystro'ch ci rhag crwydro'n lleol ac achosi problemau i gymdogion
- peidiwch â meddwl y bydd y broblem yn diflannu wrth gael ci arall yn lle'r un sydd gennych chi - mae pob ci'n cyfarth ac oni bai eich bod yn newid eich ffordd o fyw yr un pryd, bydd y broblem yn dal i fod yno
- gall meddwl am gael ail gi yn gwmni fod o help, ond meddyliwch yn ofalus am hyn oherwydd gallai ail gi arwain at fwy, nid llai o broblemau - oes gennych chi ddigon o le ac a allwch chi ei fforddio?
Cofiwch beidio â bod yn flin efo'r ci ar ôl derbyn cwynion gan gymdogion am gyfarth neu os yw'n difrodi dodrefn pan fyddwch chi i ffwrdd. Ni fydd y ci yn deall beth mae wedi'i wneud o'i le a chofiwch mai chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod anghenion eich ci yn cael eu diwallu.
Mae rhagor o gyngor am gun sy'n cyfarth ar gael yn nhaflenni Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a elwir yn Defra, sydd ar gael i'w llwytho i lawr ar ffurf PDF ar eu gwefan - 'Is Your Dog Barking Too Much?', a 'Constant Barking Can Be Avoided, Offering guidance to dog owners'.