Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Bod yn berchen ar geffyl a phasportau ceffylau

Mae bod yn berchen ar geffyl yn gyfrifoldeb enfawr, yn ariannol ac o ran amser. Un cyfrifoldeb yw sicrhau bod gennych basport ceffyl sy'n ofynnol dan y gyfraith. Gall y wybodaeth a'r cysylltiadau canlynol eich helpu.

Gofalu am geffyl neu ferlen

Os ydych yn ystyried prynu ceffyl neu ferlen a heb unrhyw brofiad blaenorol, bydd angen cyngor arnoch. Byddwch yn gyfrifol am bob agwedd ar les yr anifail, o'i fwydo i'w ymarfer.

Os nad ydych yn sicr am yr ymroddiad o ran arian ac amser sy'n ofynnol gallwch gysylltu â mudiad ceffylau megis Cymdeithas Ceffylau Prydain sy'n darparu pecynnau gwybodaeth i berchnogion ceffylau.

Bydd cysylltu ag arbenigwyr ceffylau ac ymweld â stablau lleol yn eich helpu i benderfynu a yw'r ffordd o fyw gennych i allu ymdopi â cheffyl neu ferlen. Dylech gael cymorth hefyd os ydych wedi arfer bod yn berchen ar geffyl ac yn cael problemau ymdopi â'ch ymrwymiadau.

Mae'r Cyngor Cenedlaethol Lles Ceffylau (NEWC) wedi llunio dogfen lles ceffylau sy'n nodi'r safonau gofal sylfaenol ar gyfer ceffylau ac mae'n cynnwys eich dyletswyddau cyfreithiol fel perchennog ceffyl. Gellir gweld y ddogfen drwy ddilyn y ddolen i wefan NEWC isod.

Ysgolion marchogaeth a stablau cymeradwy

Bydd llawer o berchnogion yn cadw'u hanifeiliaid mewn ysgol farchogaeth neu mewn stablau. Gall y ddau ddarparu cyfleusterau marchogaeth, ardal hyfforddi, a thir pori ar gyfer eich ceffyl. Gallant hefyd ddarparu gwasanaethau ar gyfer lletya a gofalu am eich ceffyl.

Un ffordd o sicrhau bod yr ysgol neu'r stabl yn addas yw gweld a yw wedi'i gymeradwyo gan gorff swyddogol. Rhaid i bob ysgol farchogaeth, dan y gyfraith, gael trwydded i gynnal eu busnes, a roddir gan awdurdodau lleol. Efallai y bydd rhai ysgolion marchogaeth yn dewis cael cymeradwyaeth ychwanegol gan fudiad ceffylau.

Cymdeithas Ceffylau Prydain yw un o'r mudiadau ceffylau mwyaf yn y DU ac mae'n gweithredu system gymeradwyo ar gyfer stablau ac ysgolion marchogaeth. Bydd y Gymdeithas yn sicrhau bod sefydliad yn cydymffurfio â'r holl reoliadau iechyd a diogelwch, bod ganddynt yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a'u bod yn cymryd gofal priodol o'r ceffylau a'r merlod.

Mae gan Gymdeithas Ysgolion Marchogaeth Prydain hefyd gynllun cymeradwyo ysgolion marchogaeth.

Gellir cael mwy o wybodaeth am gynlluniau cymeradwyo'r cymdeithasau hyn ynghyd â rhestrau o ysgolion marchogaeth a stablau ar eu gwefannau.

Pasportau ceffylau

Rhaid i bob ceffyl a merlen yng Nghymru a Lloegr (yn cynnwys mulod) gael pasport. Mae pasportau ceffylau wedi cael eu cyflwyno i helpu i reoli ceffylau a merlod. Mae'r pasportau hyn yn sicrhau na fydd ceffyl sydd wedi cael ei drin gyda moddion milfeddygol yn cael ei ladd ar gyfer ei fwyta gan bobl.

Mae rhagor o wybodaeth am basportau ceffylau a sut i wneud cais amdanynt ar gael ar wefan yr Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).

In this section...

Allweddumynediad llywodraeth y DU