Mae cefnogaeth ar gael i'ch helpu chi a'ch teulu ar ôl tân - o lety dros dro i gefnogaeth emosiynol. Dylech sicrhau hefyd eich bod yn diogelu eich eiddo rhag unrhyw ddifrod pellach.
Darperir y gwasanaeth cefnogi tân ac argyfwng gan wirfoddolwyr y Groes Goch Brydeinig gan ddefnyddio cerbyd arbennig sydd wedi'i addasu. Byddant yn cyrraedd safle unrhyw ddigwyddiad o fewn 90 munud ers cael eu galw ac yn darparu cymorth ymarferol a chefnogaeth emosiynol i'r rhai y mae tân wedi effeithio arnynt.
Mae cefnogaeth y gwasanaeth cefnogi adeg tân ac argyfwng yn cynnwys:
Gall y swyddog tân sy'n gyfrifol am y man lle bu'r tân ofyn am y cerbyd gan nodi faint o bobl sydd angen cymorth a pha fath o gymorth y mae ei angen arnynt
Ar ôl diffodd y tân, bydd y swyddogion tân yn archwilio'r adeilad yn drylwyr ac yn dweud wrthych chi am unrhyw ddiffygion strwythurol neu ddiffygion eraill amlwg. Os bydd y gwasanaethau brys yn credu nad yw'r adeilad yn ddiogel:
Os na allwch fyw yn eich cartref ar ôl tân, gallech wneud y canlynol:
Pan fydd y gwasanaethau brys yn gadael, chi sy'n gyfrifol am ddiogelwch eich eiddo. Bydd eich yswirwyr yn disgwyl i chi sicrhau bod eich cartref yn ddiogel. Symudwch bopeth gwerthfawr o'r eiddo os yw'n ddiogel i chi wneud hynny a chaewch bob drws a ffenestr. Os oes angen cau'r ffenestri a'r drysau â choed, cysylltwch â'ch cyngor lleol os ydych chi'n denant tŷ cyngor. Neu, y tu allan i oriau swyddfa, gall y frigâd dân neu'r heddlu gysylltu â nhw ar eich rhan.
Dylai perchnogion neu denantiaid preifat gysylltu â chwmni gwydr 24 awr. Fe'u rhestrir dan 'glaziers' yn y Yellow Pages. Dywedwch wrth yr heddlu os ydych chi'n gadael yr eiddo cyn iddo fod yn ddiogel, gan esbonio unrhyw drefniadau rydych chi wedi'u gwneud gyda chontractwyr.
Mae'n siŵr y codir tâl arnoch chi am y rhan fwyaf o'r gwasanaethau uchod ond efallai y gallwch chi hawlio rhywfaint o arian yn ôl drwy yswiriant eich cartref.
Yn dilyn tân, mae'n beth doeth gwneud y canlynol:
Mae manylion cyswllt cyflenwyr a gosodwyr nwy, trydan a dŵr ar gael yn y Yellow Pages.
Efallai na fydd gan bobl sy'n byw ar incwm isel yswiriant digonol. Mae llawer hefyd yn peidio â thalu eu polisi yswiriant os ydyn nhw'n wynebu problemau ariannol. Os bydd angen cymorth ariannol arnoch chi ar gyfer costau megis yswiriant, efallai y byddwch yn gymwys i gael Grant Cymunedol. Mae Grant Cymunedol yn helpu pobl i fyw'n annibynnol yn y gymuned ac yn helpu i ysgafnhau pwysau eithriadol ar deuluoedd.
Os oes gennych blant neu bobl ddiymgeledd eraill yn eich teulu, cewch gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol. Cysylltwch ag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol. Efallai hefyd y bydd eich cyngor yn darparu manylion cyswllt brocer sydd, yn eu barn nhw, yn darparu gwasanaeth rhad i'r rhai sydd ar incwm isel.
Mae gwasanaethau ar gael i chi os byddwch chi'n ddigartref ar ôl tân.