Dathlu'n ddiogel
Yn ystod dathliadau, mae'n hawdd i bethau eraill dynnu'ch sylw, ac i chi fod yn llai ymwybodol o'r perygl y gall tân ei achosi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn delio â thân gwyllt, addurniadau a goleuadau'n ddiogel ac yn atal damweiniau drwy ddilyn yr awgrymiadau syml hyn.
Dilynwch y cod diogelwch ar gyfer tân gwyllt
Os ydych chi'n meddwl defnyddio tân gwyllt fel rhan o'ch dathliadau, dylech ddilyn yr awgrymiadau hyn er mwyn bod yn ddiogel:
- dim ond tân gwyllt â nod BS 7114 arnynt y dylech eu prynu (dyma'r Safon Brydeinig y dylai tân gwyllt o bob math ei bodloni)
- peidiwch ag yfed alcohol os ydych chi'n gyfrifol am danio tân gwyllt
- storiwch dân gwyllt mewn blwch metel caeedig a'u tynnu allan un ar y tro
- cadwch fwced o ddŵr gerllaw
- dilynwch y cyfarwyddiadau ar bob tân gwyllt – defnyddiwch olau fflachlamp i ddarllen y cyfarwyddiadau, peidiwch byth â defnyddio fflam agored
- taniwch y tân gwyllt hyd braich i ffwrdd, gan ddefnyddio'r tapr a ddarperir
- gwnewch yn siŵr bod pawb yn sefyll yn ddigon pell yn ôl
- peidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt sydd wedi'i gynnau - hyd yn oed os nad yw wedi tanio, mae'n dal yn bosib iddo ffrwydro
- peidiwch byth â rhoi tân gwyllt yn eich poced na'u taflu
- dylid goruchwylio plant o amgylch tân gwyllt bob amser, ac ni ddylid byth roi ffyn gwreichion i blentyn dan bump oed
- taniwch ffyn gwreichion un ar y tro a gwisgwch fenig
- cadwch anifeiliaid anwes dan do
- peidiwch â thanio tân gwyllt yn hwyr yn y nos
- byddwch yn ofalus o amgylch tanau agored fel coelcerthi a barbeciws - gall pob dilledyn fynd ar dân, hyd yn oed os yw'r label arnynt yn dweud na fyddant yn mynd ar dân yn hawdd
Tân gwyllt a'r gyfraith
Os byddwch yn camddefnyddio tân gwyllt, gallech gael dirwy o £80 yn y fan a'r lle. Os bydd y llysoedd yn dyfarnu eich bod yn euog gallech gael dirwy o hyd at £5,000.
Os ydych yn iau na 18 oed, chewch chi ddim:
- prynu'r mathau o dân gwyllt y gellir eu gwerthu i oedolion yn unig, neu eu defnyddio mewn llefydd cyhoeddus - mae hyn yn cynnwys ffyn gwreichion
Chewch chi ddim:
- tanio tân gwyllt ar y stryd neu mewn llefydd cyhoeddus eraill
- tanio tân gwyllt rhwng 11.00 pm a 7.00 am, ac eithrio ar y dyddiau a restrir isod
- achosi i anifeiliaid dof neu anifeiliaid caeth ddioddef heb fod angen (os dyfernir eich bod yn euog, y gosb yw naill ai carchar am hyd at 51 wythnos, neu ddirwy o hyd at £20,000, neu'r ddau)
Cewch danio tân gwyllt hyd at hanner nos ar Noson Tân Gwyllt a hyd at 1.00 am ar Ddydd Calan, ar y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd neu yn ystod Diwali.
Os byddwch yn defnyddio tân gwyllt mae angen i chi gofio am eich cymdogion a gwneud yn siŵr nad ydych yn achosi niwsans.
Diogelwch rhag tân yn ystod dathliadau a gwyliau
Yn ogystal â'r gofal y dylech ei gymryd o ddydd i ddydd yn eich cartref (darllenwch am hyn drwy ddilyn y ddolen isod - ‘Diogelwch rhag tân yn y cartref’) dylech fod yn fwy gofalus os ydych yn cynnal parti, neu os oes gennych ffrindiau neu deulu'n aros yn eich cartref:
- os bydd gwesteion yn aros dros nos, gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod sut mae dianc yn ddiogel
- rhowch wybod i westeion am unrhyw nodweddion nad ydynt yn gyfarwydd â nhw - er enghraifft, sut mae datgloi'r drws ffrynt
- dywedwch wrth eich gwesteion ym mhle mae allweddi'r drws yn cael eu cadw dros nos
- cymerwch ofal arbennig o bobl oedrannus, plant a phobl anabl
- os oes ysmygwyr yn eich plith, darparwch ddigon o flychau llwch er mwyn sicrhau na fydd llwch neu fonion yn cael eu gollwng mewn llefydd fel biniau sbwriel
Goleuadau addurniadol, canhwyllau ac addurniadau
Ni fydd goleuadau bach a goleuadau a roddir ar goed Nadolig yn cael eu defnyddio'n aml iawn, felly dylech wneud yn siŵr eu bod yn gweithio'n iawn cyn eu defnyddio:
- gwnewch yn siŵr bod maint y ffiws sydd yn y plwg yn gywir (edrychwch ar y bocs i weld beth yw'r ffiws uchaf ddylech chi ei ddefnyddio)
- rhowch fylbiau newydd yn lle'r rhai sydd wedi chwythu
- peidiwch â gadael goleuadau ymlaen pan fyddwch yn mynd i'r gwely neu'n gadael y tŷ
- peidiwch â gadael i'r bylbiau gyffwrdd ag unrhyw beth a all losgi'n rhwydd, megis papur neu ddeunyddiau (byddwch yn arbennig o ofalus gydag addurniadau eraill y goeden Nadolig)
Mae addurniadau Nadoligaidd, yn enwedig rhai wedi'u gwneud o bapur sidan neu gardbord, yn llosgi'n hawdd felly cadwch addurniadau a chardiau cyfarch oddi wrth wresogyddion, goleuadau, llefydd tân a chanhwyllau.
Bydd canhwyllau a goleuadau nos yn cael eu defnyddio'n aml mewn dathliadau ar gyfer y Nadolig, Diwali a gwyliau eraill. Ni ddylid byth eu rhoi ar goeden Nadolig, planhigion, blodau na dail, nac yn agos atynt. Dylech hefyd fod yn ofalus â rhubanau ac addurniadau eraill, gan wneud yn siŵr nad ydynt yn agos at fflamau canhwyllau. I gael mwy o awgrymiadau cyffredinol am ddefnyddio canhwyllau'n ddiogel, dilynwch y ddolen isod.