Os ydych chi'n astudio i fod yn athro neu athrawes, mae cymorth ariannol ar gael. Bydd y math o gymorth y gallwch ei gael yn dibynnu ar y llwybr hyfforddiant i athrawon y byddwch yn ei ddewis. Mae'r tudalennau hyn yn rhoi canllaw i'r cymorth ariannol sydd ar gael os ydych chi'n dod o Loegr.
Mae gan bob myfyriwr sy'n dilyn cwrs Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon cymwys hawl i ryw fath o gymorth ariannol. Gellir dilyn nifer o lwybrau er mwyn cymhwyso i fod yn athro, a bydd y math o gymorth a gewch yn dibynnu ar ba lwybr yr ydych chi'n ei ddewis.
Os ydych chi'n dilyn cwrs Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon amser llawn ar gyfer israddedigion, gallwch wneud cais am Fenthyciadau Myfyrwyr, grantiau a bwrsarïau ar yr un telerau â myfyrwyr amser llawn eraill sy'n dilyn eu cwrs addysg uwch cyntaf.
Fel arfer, ni chaiff myfyrwyr ôl-raddedig wneud cais am y pecyn cyllid cyflawn sy'n cael ei anelu at fyfyrwyr amser llawn. Ond byddwch yn gymwys ar gyfer elfennau ohono ar gyfer cwrs Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon – p'un ai a ydych yn ei ddilyn ar sail amser llawn neu ran-amser, neu fel myfyriwr israddedig neu ôl-raddedig.
Dilynwch y ddolen isod i weld ‘Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon - Benthyciadau myfyrwyr, grantiau a bwrsarïau’. Cewch yma fanylion am y pecyn cyllid sydd ar gael i fyfyrwyr israddedig a'r rhan fwyaf o fyfyrwyr ôl-raddedig a gychwynnodd ar eu cwrs ym mis Medi 2006 neu ar ôl hynny.
Os ydych chi'n fyfyriwr ôl-raddedig, gallwch hefyd wneud cais am fwrsari hyfforddi gan yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion, sy'n werth rhwng £4,000 a £9,000. Telir hwn ar ben y pecyn cyllid sydd ar gael i israddedigion ac ôl-raddedigion.
Dilynwch y ddolen isod i fynd i ‘Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon: cymorth ychwanegol i ôl-raddedigion i gael gwybod mwy am fwrsari hyfforddi'r Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu, ac i gael gwybodaeth am ‘daliadau croeso’, sef bonws a delir unwaith yn unig i fyfyrwyr ôl-raddedig sydd wedi hyfforddi i ddysgu rhai pynciau sy'n cael ‘blaenoriaeth’ ar lefel uwchradd, ar ôl iddynt gwblhau eu blwyddyn sefydlu.
Bydd y pecyn cymorth ariannol yn wahanol os ydych chi'n fyfyriwr israddedig a ddechreuodd ar eich cwrs cyn mis medi 2006 – neu os ydych chi'n cael eich trin felly oherwydd i chi, er enghraifft, gymryd blwyddyn fwlch yn 2005/2006.
Dyma'r prif ffynonellau cyllid ar gyfer israddedigion a ddechreuodd astudio cyn mis Medi 2006:
Yn gyffredinol, nid yw'r grantiau a'r Benthyciadau Myfyrwyr hyn ar gael ar gyfer cyrsiau rhan-amser – ond mae cyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon rhan-amser yn eithriad.
Dilynwch y ddolen isod i gael mwy o fanylion.
Ceir hefyd dri math o Gynlluniau Hyfforddi Athrawon yn y gweithle. Os byddwch yn dilyn un o'r llwybrau hyn, ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd dysgu.
Gweithiwr fyddwch chi yn hytrach na myfyriwr - felly telir cyflog i chi gan eich ysgol, ond ni fyddwch yn gymwys ar gyfer cyllid myfyrwyr, bwrsari hyfforddi na ‘thaliad croeso’.
Gallwch gael mwy o wybodaeth ynghylch y mathau gwahanol o gyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon ar wefan yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion.