Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Canllaw cyflym i ddiogelwch rhag tân

Bydd dilyn y cynghorion syml hyn yn gwneud eich cartref yn fwy diogel rhag tân - ac yn eich helpu chi a'r rheini sy'n byw gyda chi i adael y tŷ yn gyflym ac yn ddiogel os ceir tân. Defnyddiwch y rhestr o bethau ychwanegol i'w gwneud cyn mynd i'r gwely bob nos, er mwyn gwneud yn siŵr bod popeth yn ddiogel cyn i chi fynd i'r gwely.

Y cyngor gorau ar gyfer cadw'n ddiogel rhag tân

  • gosodwch larymau mwg ar bob lefel yn eich cartref.
  • gwnewch yn siŵr bod y batris yn eich larwm mwg yn gweithio bob wythnos a newidiwch hwy bob blwyddyn, peidiwch byth â'u tynnu o'r larwm
  • pan fyddwch yn coginio, dylech osgoi gadael plant yn y gegin ar eu pen eu hunain - gwnewch yn siŵr nad ydynt yn gallu cyrraedd matsis a handlenni sosbenni
  • cymerwch ofal wrth goginio ag olew poeth - gall fynd ar dân yn hawdd
  • peidiwch â rhoi gormod o blygiau mewn socedi trydanol - ceisiwch gadw at un plwg i bob soced
  • dylech ddiffodd sigaréts yn llwyr a chael gwared â hwy'n ofalus
  • byddwch yn ofalus gyda chanhwyllau a gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu rhoi mewn pethau dal cannwyll priodol, yn ddigon pell o ddeunyddiau a all fynd ar dân - fel llenni
  • paratowch drwy lunio llwybr dianc
  • peidiwch â cheisio diffodd tân eich hun: gadewch hynny i'r gweithwyr proffesiynol - ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999
  • gwnewch yn siŵr bod popeth yn ddiogel cyn mynd i'ch gwely

Pethau i'w gwneud cyn mynd i'r gwely

Mae rhai pethau y dylech edrych arnynt cyn mynd i'r gwely. Drwy ddilyn y camau syml isod, gallwch leihau'r perygl o dân o amgylch eich cartref:

  • caewch y drysau y tu mewn i'r tŷ er mwyn atal tân rhag ymledu
  • diffoddwch gyfarpar trydanol a thynnu'r plwg allan oni bai eu bod wedi'u cynllunio i gael eu gadael ymlaen - megis eich rhewgell
  • gwnewch yn siŵr bod y popty wedi ei ddiffodd
  • peidiwch â gadael y peiriant golchi dillad ymlaen
  • diffoddwch wresogyddion a rhowch gard tân o flaen tanau agored
  • diffoddwch ganhwyllau a sigaréts yn iawn
  • gwnewch yn siŵr bod yr allanfeydd yn glir rhag rhwystrau
  • cadwch allweddi drysau a ffenestri mewn man y gellir dod o hyd iddynt

I gael cyngor mwy manwl ynghylch gwneud eich cartref yn ddiogel a diogelu'ch teulu rhag tân, dilynwch y dolenni isod.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU