Diogelwch yn y gegin
Mae bron i ddwy ran o dair o danau sy'n digwydd yn y cartref yn dechrau oherwydd rhywbeth yn ymwneud â choginio. Dyma ganllaw ar sut y gallwch gadw'n ddiogel wrth goginio – a beth i'w wneud os oes tân yn dechrau yn eich cegin.
Gwneud eich cegin yn ddiogel
Y popty
- sicrhewch nad oes ceblau trydanol yn llusgo ger y popty na throsto
- peidiwch â rhoi tyweli neu lieiniau sychu llestri i hongian dros y popty a pheidiwch â rhoi menig coginio ar y popty ar ôl i chi eu defnyddio
- cadwch y popty, yr hob a'r gril yn lân, oherwydd gall braster a darnau o fwyd sydd wedi hel dros amser ddechrau tân
- peidiwch â gadael sosbenni ar yr hob pan nad ydych o gwmpas - tynnwch nhw oddi ar y gwres os ydych chi'n gorfod gadael y gegin (hyd yn oed os mai dim ond am eiliad yr ydych yn meddwl y byddwch oddi yno, tra'ch bod yn ateb y drws neu'r ffôn)
Y microdon
- peidiwch â rhoi dim byd sydd wedi'i wneud o fetel, pethau sydd â rhannau wedi'u gwneud o fetel neu bethau sydd â gorffeniad metel iddynt yn y microdon
- peidiwch â sychu dillad yn y microdon
Eitemau trydanol yn y gegin
- sicrhewch nad oes ceblau trydanol yn agos at ddŵr
- peidiwch â rhoi planhigyn mewn potyn nac unrhyw beth gwlyb ar ben offer trydanol
- gwnewch yn siŵr bod y tostiwr yn lân ac yn ddigon pell oddi wrth lenni; gwagiwch y plât sy'n dal y briwsion yn rheolaidd
- peidiwch â gorlwytho socedi - un plwg i un soced yw'r rheol, yn enwedig os yw'r offer yn defnyddio llawer o bŵer (megis tegell)
- peidiwch â rhedeg ceblau estyniad ar draws y llawr - mae hynny'n gwneud iddyn nhw freuo
- dylid rhoi gwasanaeth i gyfarpar trydanol bob blwyddyn - yn enwedig y rheini sy'n gweithio'n gyflym, megis peiriant golchi dillad
- peidiwch â gadael offer megis peiriannau golchi dillad neu beiriannau golchi llestri ymlaen dros nos
- gwnewch yn siŵr nad yw'ch tegell yn gollwng – gall hyn fod yn beryglus
Edrychwch ar y bennod isod sy'n sôn am ddiogelwch trydanol i gael mwy o fanylion am ddefnyddio offer trydanol yn ddiogel yn y cartref.
Awyru
- gwnewch yn siŵr bod y system awyru yn eich cegin yn gweithio'n iawn ac nad yw wedi blocio, yn enwedig os oes gennych bopty nwy
Dulliau gwarchod
- prynwch larwm mwg sydd â botwm tawelu, fel y gallwch ei dawelu ar unwaith, heb gael eich temtio i dynnu'r batri ohono (ac eithrio pan mae hi'n amser rhoi batri newydd ynddo)
- dylech ystyried cael blanced dân yn eich cegin - gosodwch hi ar y wal lle gallwch gael gafael arni'n hwylus ac yn sydyn
Coginio'n ddiogel
Bydd y rhan fwyaf o danau cegin yn digwydd pan fydd pethau eraill yn mynd â bryd pobl neu pan na fyddant yn cadw golwg ar bethau, felly cofiwch:
- os bydd yn rhaid i chi adael y popty - gan fod y ffôn yn canu neu am fod rhywun wrth y drws, er enghraifft - tynnwch y sosbenni oddi ar y gwres
- peidiwch â gadael i rywbeth arall dynnu'ch sylw pan fyddwch yn coginio
- peidiwch â choginio os ydych chi dan ddylanwad alcohol neu os ydych yn cymryd cyffuriau ar bresgripsiwn
- trowch sosbenni fel nad yw eu handlenni'n gorwedd dros ochr y popty (nac yn gorwedd dros gylch gwres arall)
- peidiwch â rhoi menig coginio neu lieiniau sychu llestri ar bopty poeth ar ôl eu defnyddio
- glanhewch badell y gril ar ôl ei ddefnyddio
Gall defnyddio sosban sglodion arwain at fwy o beryglon yn eich cegin. Dilynwch yr awgrymiadau hyn er mwyn mynd ati i ddefnyddio'r sosban sglodion mewn modd mwy diogel:
- peidiwch byth â llenwi mwy na thraean sosban sglodion (neu sosban arall a ddefnyddir i ffrio mewn saim) gydag olew
- dylech ystyried defnyddio sosban ffrio drydan a reolir gan thermostat - bydd hyn yn gwneud yn siŵr nad yw'r saim yn mynd yn rhy boeth
Os bydd y sosban sglodion ar dân:
- ffoniwch 999 ar unwaith
- peidiwch byth â symud y sosban
- diffoddwch y gwres - dim ond os yw'n ddiogel i chi wneud hynny
- peidiwch byth â rhoi dŵr ar danau sosban sglodion oherwydd fe fydd hyn yn achosi ffrwydrad
Delio â thân yn eich cegin
Os oes gennych dân yn y gegin, peidiwch â chymryd dim risg - gwnewch yn siŵr bod pawb yn mynd o'ch cartref a ffoniwch 999
Os bydd sosban yn mynd ar dân:
- peidiwch â'i symud - mae'n debygol o fod yn eithriadol o boeth
- diffoddwch y gwres os yw'n ddiogel gwneud hynny - ond peidiwch byth â phwyso dros sosban i gyrraedd y botymau
- os oes gennych flanced dân, rhowch hi dros y sosban
- peidiwch â defnyddio diffoddwr tân ar sosban o olew - gall grym y diffoddwr beri i'r tân ymledu
- os ydych wedi diffodd y tân, gadewch y sosban i oeri'n gyfan gwbl
Os cewch dân trydanol yn y gegin:
- tynnwch y plwg o'r soced neu ddiffodd y pŵer yn y bocs ffiwsys - gallai hyn fod yn ddigon i ddiffodd y tân ar unwaith
- rhowch flanced dân dros y tân, neu ddefnyddio diffoddwr powdr sych neu garbon deuocsid
- cofiwch: peidiwch byth â defnyddio dŵr ar dân trydanol