Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Diogelwch gyda chanhwyllau

Mae canhwyllau yn gyfrifol am fwy a mwy o danau erbyn hyn. Bob blwyddyn, caiff nifer cynyddol o bobl eu lladd neu'u hanafu oherwydd iddynt fod yn ddiofal gyda chanhwyllau. Drwy ddilyn y canllawiau hyn, gallwch leihau'r risgiau a berir drwy ddefnyddio canhwyllau.

Defnyddio canhwyllau'n ddiogel yn eich cartref

Cofiwch yr awgrymiadau diogelwch hyn pa bryd bynnag y byddwch chi'n defnyddio canhwyllau yn eich cartref:

  • gosodwch hwy ar arwyneb sy'n gwrthsefyll gwres – a byddwch yn arbennig o ofalus gyda goleuadau nos a chanhwyllau bach crwn, sy'n poethi digon i doddi plastig; nid yw setiau teledu yn gwrthsefyll tân
  • gwnewch yn siŵr eu bod yn sefyll yn hollol syth mewn pethau dal cannwyll fel nad ydynt yn disgyn drosodd; mae angen i'r gwrthrych sy'n dal y gannwyll fod yn sownd hefyd, fel na fydd hwnnw'n disgyn chwaith
  • peidiwch â rhoi canhwyllau wrth ymyl llenni nac wrth ddodrefn neu ddeunyddiau eraill - a chadwch nhw draw oddi wrth ddrafftiau
  • peidiwch â'u gosod o dan silffoedd – gwnewch yn siŵr bod o leiaf metr (tair troedfedd) rhwng cannwyll ac unrhyw arwyneb uwch ei phen
  • cadwch ddillad a gwallt oddi wrth y fflam agored – os oes unrhyw bosibilrwydd y gallech anghofio bod y gannwyll yno, a phwyso ar ei thraws neu ei tharo wrth basio, rhowch hi'n rhywle arall
  • dylid bob amser osod canhwyllau o gyrraedd plant, ac mewn llefydd na all anifeiliaid anwes eu cyrraedd
  • gadewch o leiaf bedair modfedd (10 centimedr) rhwng unrhyw ddwy gannwyll
  • diffoddwch ganhwyllau cyn eu symud, a pheidiwch â gadael i unrhyw beth ddisgyn i'r gŵer poeth, megis coes matsis
  • peidiwch â'u gadael ynghyn – dylech ddiffodd canhwyllau cyn i chi adael yr ystafell; peidiwch byth â mynd i gysgu gyda channwyll yn dal ynghyn, a pheidiwch byth â gadael llosgwr olew neu gannwyll ynghyn mewn ystafell wely plentyn
  • defnyddiwch ddiffoddwr cannwyll neu lwy i'w diffodd – gall eu chwythu dasgu gwreichion a gŵer poeth – a gwnewch yn hollol siŵr eu bod wedi'u diffodd yn llwyr ac nad ydynt yn dal i fudlosgi

Astudiaeth achos

Credai Rattan Ghuman iddo ddiffodd cannwyll fach grwn ar ochr ei faddon pan adawodd yr ystafell, ond daliodd y gannwyll i fudlosgi. Toddodd gwres y gannwyll ochr blastig y baddon, ac fe aeth yr ystafell ymolchi ar dân. Dihangodd Rattan a'i wraig, Aimee, o'r tŷ, ond cafodd eu hystafell ymolchi ei difetha.

Cofiwch: dim ond un gannwyll sydd ei heisiau i beryglu'ch cartref – byddwch yn ofalus bob amser wrth eu defnyddio.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU