Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Diogelwch rhag tân yn yr awyr agored - barbeciws a gwersylla

Nid yn y cartref yn unig y mae diogelwch rhag tân yn bwysig. Gall esgeulustod yn yr awyr agored arwain at ganlyniadau angheuol, a gall tanau hefyd ddinistrio ardaloedd anferth o gefn gwlad ac ecosystemau bregus.

Byddwch yn effro i beryglon tân yn yr awyr agored

Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o'r peryglon tân y gellir eu cyflwyno gan weithgareddau hamdden yn yr awyr agored megis barbeciws, gwersylla a charafanio. Mae tir sych yn yr haf yn ychwanegu at y peryglon – ond dylid bod yn ofalus drwy gydol y flwyddyn.

Diogelwch wrth gynnal barbeciw

Er mwyn cynnal barbeciw'n ddiogel ac osgoi anafiadau neu ddifrod i eiddo, dilynwch yr awgrymiadau syml hyn:

  • gwnewch yn siŵr fod eich barbeciw yn gweithio'n iawn
  • cadwch fwced o ddŵr, bwced o dywod neu beipen gardd gerllaw rhag ofn y bydd argyfwng yn codi
  • sicrhewch fod eich barbeciw yn gorwedd yn wastad ac oddi wrth siediau, ffensys, coed a llwyni
  • defnyddiwch dim ond digon o olosg i orchuddio gwaelod y barbeciw hyd at ddyfnder o oddeutu 5cm (dwy fodfedd)
  • peidiwch byth â defnyddio petrol neu baraffîn i gynnau nac ailgynnau tân barbeciw; dim ond tanwyr cydnabyddedig neu danwydd cynnau y dylid eu defnyddio, a hynny ar olosg oer
  • cadwch blant, gemau gardd ac anifeiliaid anwes i ffwrdd o'r man coginio
  • peidiwch byth â gadael y barbeciw heb oruchwyliaeth
  • ar ôl coginio, gwnewch yn siŵr fod y barbeciw wedi oeri cyn ceisio'i symud; gwagiwch yr ulw ar bridd moel yn yr ardd, yn hytrach nac yn y bin
  • ni ddylid byth cynnau barbeciw dan do

Awgrymiadau ychwanegol ar gyfer barbeciws nwy

  • mae angen gofal arbennig wrth droi barbeciw nwy potel ymlaen a'i ddiffodd
  • gwnewch yn siŵr fod y tap wedi'i ddiffodd cyn newid y silindr nwy
  • newidiwch y silindrau nwy yn yr awyr agored os yw'n bosib – neu agorwch ddrysau a ffenestri er mwyn sicrhau awyru da
  • ar ôl i chi orffen coginio, diffoddwch y silindr nwy cyn diffodd y barbeciw ei hun - mae hyn yn sicrhau y defnyddir unrhyw nwy sydd yn y beipen

Os ydych yn amau bod y silindr nwy neu'r beipen yn gollwng:

  • golchwch bob uniad â brwsh a dŵr sebon gan chwilio am swigod
  • os gwelwch chi fod uniad yn gollwng, ceisiwch ei dynhau

ond

  • gofalwch nad ydych yn tynhau uniad ormod

Mae sut y byddwch yn cadw'r silindrau ar gyfer eich barbeciw hefyd yn bwysig. Dylid eu cadw y tu allan, ond y tu hwnt i gyrraedd pelydrau'r haul a rhew. Peidiwch â chadw mwy o silindrau nag sydd angen arnoch a pheidiwch â'u cadw dan y grisiau yn y tŷ – petai tân yn digwydd, mae'n debyg mai'r grisiau fyddai eich llwybr dianc.

Diogelwch wrth wersylla

Dilynwch y rhagofalon sylfaenol hyn tra byddwch yn gwersylla, er mwyn lleihau'r risg o dân:

  • sicrhewch fod y carafannau'n cael eu cadw o leiaf chwe metr oddi wrth ei gilydd
  • gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw'r trefniadau ymladd tân yn y gwersyll ac ymhle mae'r ffôn agosaf
  • cadwch dortsh wrth law rhag ofn – peidiwch â defnyddio cannwyll olau

Os ydych yn aros mewn carafán:

  • gosodwch larwm mwg
  • byddwch yn ofalus wrth goginio – peidiwch â gadael sosbenni heb oruchwyliaeth
  • cadwch fatsys a thanwyr y tu hwnt i gyrraedd plant
  • os ydych yn ysmygu, defnyddiwch flychau llwch metel addas – a pheidiwch byth ag ysmygu yn y gwely
  • peidiwch â gadael plant ar eu pen eu hunain yn y garafán
  • peidiwch â rhwystro awyrellau – gall hyn achosi marwolaeth
  • cadwch ddiffoddwr tân yn y garafán, ger y drws
  • cadwch y silindrau y tu allan i'ch carafán
  • cyn mynd i'r gwely (neu cyn gadael y garafán), diffoddwch yr holl declynnau
  • peidiwch byth â defnyddio stôf neu wresogydd tra mae carafán neu fan wersylla'n symud
  • gwnewch yn siŵr mai dim ond pan fyddant yn hollol wag y byddwch yn newid silindrau nwy

ac os ydych yn amau bod nwy yn gollwng:

  • diffoddwch yr holl declynnau a phrif falf y silindr
  • agorwch yr holl ffenestri a drysau
  • peidiwch ag ysmygu na defnyddio switshis trydanol

Os ydych yn aros mewn pabell:

  • peidiwch byth â defnyddio canhwyllau mewn pabell nac ar ei chyfyl – mae tortsh yn fwy diogel
  • cadwch fatsys a thanwyr y tu hwnt i gyrraedd plant
  • dylid cadw hylifau fflamadwy a silindrau nwy y tu allan i'r babell a thu hwnt i gyrraedd plant
  • ni ddylid defnyddio teclynnau sy'n llosgi olew mewn pabell nac ar ei chyfyl
  • cadwch offer coginio yn glir o'r waliau a'r nenfwd ac o unrhyw le y gellid eu taro drosodd – ni ddylid eu defnyddio o gwbl mewn pebyll bach
  • cadwch ddefnyddiau a allai losgi i ffwrdd o'ch man coginio, gan gynnwys gwair hir
  • peidiwch ag ysmygu mewn pabell
  • lluniwch gynllun dianc a byddwch yn barod i dorri'ch hun allan o'ch pabell os bydd tân
  • gwnewch yn siŵr fod pawb yn gwybod sut i ddiffodd tân dillad – darllenwch y cyngor 'Stopio, Disgyn a Rholio' isod

Os oes tân:

  • gall tanau mewn pebyll a charafannau ledaenu'n gyflym iawn – sicrhewch fod pawb yn mynd allan yn syth
  • ffoniwch y gwasanaeth tân ac achub a rhoi'ch union leoliad iddynt – rhowch gyfeirnod os oes modd; fel arall, enwch ryw nodwedd gyfagos megis fferm neu dafarn, i'w helpu i ddod o hyd i chi

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU