Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Diogelwch rhag tân yn yr awyr agored - cefn gwlad a thai to gwellt

Bob blwyddyn, mae tân yn dinistrio miloedd o aceri o gefn gwlad a chynefinoedd bywyd gwyllt. Bydd rhai tanau'n cael eu cynnau'n fwriadol, ond bydd y rhan fwyaf yn dechrau oherwydd esgeulustod – a gall ychydig o ragofalon syml eu hatal. Mae yna hefyd fesurau diogelwch ychwanegol y dylid eu cymryd os ydych yn byw (neu ar wyliau) mewn tŷ to gwellt.

Sut mae lleihau'r perygl o danau sy'n ymledu'n gyflym

Dilynwch yr awgrymiadau hyn i leihau'r perygl o gael tanau sy'n ymledu'n gyflym yng nghefn gwlad:

  • gwnewch yn siŵr bod sigaréts a deunyddiau ysmygu eraill wedi'u diffodd yn iawn
  • peidiwch byth â thaflu bonion sigaréts o ffenestri ceir – gallant ddifetha caeau cyfan o gnydau
  • peidiwch â gadael poteli na gwydr mewn coetiroedd – gall golau'r haul yn sgleinio drwy wydr ddechrau tanau; ewch â nhw adref neu rhowch nhw mewn bin sbwriel neu fin ailgylchu
  • peidiwch â defnyddio barbeciws dim ond mewn lle addas a diogel, a pheidiwch byth â'u gadael – dilynwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth am ddefnyddio'r barbeciw'n ddiogel
  • dylech osgoi defnyddio tanau agored yng nghefn gwlad
  • os gwelwch dân yng nghefn gwlad, rhowch wybod amdano ar unwaith
  • peidiwch â cheisio mynd i'r afael â thân na ellir ei ddiffodd â bwced o ddŵr – gadewch yr ardal mor fuan â phosib

Os ydych chi'n gwersylla yng nghefn gwlad, dilynwch y ddolen isod i gael cyngor am atal tanau.

Caniatâd ar gyfer tanau yn yr awyr agored

Mae'n ddigon hawdd i dân yn yr awyr agored fynd allan o bob rheolaeth. Dylech bob amser holi perchennog y tir i ddechrau a ganiateir cynnau tanau a defnyddio barbeciws ar eu tir. Dim ond mewn mannau diogel a dynodedig y dylid eu cael. Dylid cadw plant yn ddigon pell o unrhyw dân agored bob amser.

Diogelwch rhag tân ar gyfer adeiladau â tho gwellt

Mae toeau gwellt mewn perygl o dân bob amser. Pan fydd tân wedi gafael mewn to gwellt, bydd yn ymledu'n gyflym.

Dyma'r rhesymau mwyaf cyffredin i doeau gwellt fynd ar dân:

  • namau trydanol
  • mellt yn effeithio ar yr erial teledu
  • gwreichion yn tasgu o'r simneiau, sigaréts heb ddiffodd wedi'u taflu a choelcerthi mewn gerddi

Erialau teledu

Wrth osod erialau teledu ar dŷ to gwellt, dylid ei roi ar bolyn ar wahân. Pan nad yw hyn yn bosib, dylai'r erial gael ei roi ar y talcen, neu ar dalcen y simnai, lle gellir rhedeg y cebl i lawr y wal, heb iddo gyffwrdd â'r gwellt. Datgysylltwch eich erial teledu yn ystod stormydd trydanol er mwyn atal y system rhag difrod.

Os ydych chi mewn tŷ to gwellt, yn ogystal â dilyn pob un o'r rhagofalon arferol ar gyfer diogelwch rhag tân yn y cartref (gweler y ddolen isod am y mesurau diogelwch hyn y dylid eu dilyn o ddydd i ddydd) dylech hefyd wneud y canlynol:

  • cadwch simneiau a ffliwiau'n lân, gan sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a'u cadw'n briodol
  • defnyddiwch ffitiad golau swmpus (bulkhead) yn eich croglofft
  • peidiwch byth â llosgi sbwriel na gwastraff gardd ger y tŷ
  • peidiwch byth â thanio tân gwyllt ger tŷ to gwellt

Allweddumynediad llywodraeth y DU