Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Diogelwch rhag tân ar gwch

Nid yw cychod yn peri'r un risgiau tân ag adeiladau, ond drwy ddilyn rhywfaint o arweiniad synnwyr cyffredin, gallwch ddiogelu eich cwch ac unrhyw griw.

Arweiniad diogelwch sylfaenol

Bydd y rhagofalon syml hyn yn lleihau'r risg o dân ar eich cwch:

  • gosod larwm mwg
  • sicrhau bod y dodrefn a'r ewyn inswleiddio yn ddeunyddiau gwrth-tân
  • dylid sicrhau bod gwyddiau gwifro yn mynd drwy gwndid i osgoi rhathiad
  • dylai bocsys batri fod yn gaeedig ac wedi'u hawyru
  • dim ond matsis diogelwch y dylech eu storio – gallai dirgryniad danio matsis nad ydynt yn fatsis diogelwch
  • bod ag o leiaf un diffoddwr tân, a ddylai fod ger allanfa'r caban

Osgoi tanau tanwydd

Rheoli injan

  • cyn dechrau, sicrhewch fod digon o aer o amgylch yr injan
  • ar ôl gwneud unrhyw waith cynnal a chadw ar yr injan, dylid awyru'r injan yn drwyadl
  • dylid edrych yn rheolaidd ar linellau tanwydd a thanciau er mwyn sicrhau nad oes craciau ynddynt ac nad oes dim yn gollwng ohonynt

Rheoli tanwydd

  • dylech gario tanwydd sbâr dim ond os yw hynny'n gwbl angenrheidiol, a dylid ei gario mewn cynwysyddion cymeradwy yn unig, gan ei storio ar y dec uchaf bob amser
  • dylid stopio'r injan cyn dechrau ail-lenwi â thanwydd
  • dylid diffodd pob deunydd ysmygu a fflam agored ac offer coginio/goleuo
  • sicrhewch eich bod yn defnyddio twmffat wrth dywallt
  • dylai tanciau gael eu hawyru yn union uwchben y dŵr, a dylid cael falf diffodd uniongyrchol ar linellau tanwydd
  • ar ôl ail-lenwi â thanwydd, sicrhewch fod caead y tanc llenwi wedi'i gau'n dynn
  • os oes unrhyw hylifau wedi'u gollwng, dylid eu clirio a'u hawyru
  • awyru'r cwch yn drwyadl cyn dechrau'r injan neu ddefnyddio fflamau agored eto

Ymdrin â silindrau nwy yn ddiogel

Dylech fod yn arbennig o ofalus wrth ymdrin â'r silindrau nwy a ddefnyddir ar eich cwch. Dilynwch yr awgrymiadau diogelwch hyn:

  • peidiwch â gadael popty heb fod neb yn cadw llygad arno
  • dylid gosod system canfod nwy
  • dylid cadw silindrau mewn cynhwysydd wedi'i selio, sy'n dal dŵr, gyda fentiau atmosfferig lefel isel
  • defnyddiwch bibellau cymeradwy yn unig
  • dylid cadw silindrau ar wahân ac yn ddiogel pan na chânt eu defnyddio
  • dylai pyllau 'sbydu gael eu pwmpio â llaw yn rheolaidd er mwyn dileu anwedd isel
  • os bydd y tywydd yn caniatáu, ceisiwch agor pob portwll ac agorddrws yn ddigonol fel y gellir awyru
  • dylai unrhyw ran na chafodd ei defnyddio ers cryn amser gael ei hawyru'n drwyadl
  • wrth newid silindrau, gwnewch yn siŵr fod pob falf silindr wedi'i diffodd cyn ei datgysylltu
  • sicrhewch fod y silindr newydd yn ddiogel cyn cysylltu
  • peidiwch â throi'r falfiau silindr ymlaen cyn bod y cysylltiad yn gyflawn a'i fod wedi'i archwilio
  • dylid cadw silindrau sbâr a gwag yn yr awyr agored, a'u diogelu gyda strap diogelwch neu ddyfais arall y gellir ei hagor yn gyflym

Os ceir tân ar y cwch

Paratoi yw'r allwedd i ddelio â thân, os a phan ddigwydd hynny. Dylech bob amser wneud yn siŵr y gŵyr pawb sut mae dianc rhag perygl, lle mae offer diogelwch tân wedi'u gosod a sut mae gwneud galwad mewn argyfwng. Dyma'r pwyntiau hanfodol i'w cofio:

  • meddyliwch am eich diogelwch eich hun: gadewch y cwch ar unwaith
  • os yw'n bosibl, cadwch y tanwydd a'r nwy ar wahân
  • peidiwch â mynd yn rhy agos at gychod eraill, a rhowch wybod iddynt am y perygl a berir gan eich cwch
  • paratowch fag brys a rafft achub

Allweddumynediad llywodraeth y DU