Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Atal tanau sosban sglodion a thanau eraill sy'n gysylltiedig â choginio

Yn y gegin y bydd y rhan fwyaf o danau domestig yn cychwyn. Gallwch ddilyn camau syml er mwyn atal tân yn y gegin.

Diogelwch tân yn y gegin

  • pan fyddwch yn coginio, byddwch yn ofalus os ydych chi'n gwisgo dillad llac oherwydd gallant fynd ar dân yn hawdd
  • cadwch wifrau trydanol, llieiniau sychu llestri a chadachau oddi wrth y popty a'r hob
  • peidiwch byth â gadael plant ar eu pennau eu hunain yn y gegin
  • sicrhewch nad yw matsis, tanwyr a handlenni sosbenni o fewn cyrraedd plant, a rhowch glicied diogelwch ar ddrws y popty
  • cadwch y popty, yr hob, y peiriant gwneud tost a'r gril yn lân - gall braster, briwsion neu saim sydd wedi hel dros amser fynd ar dân yn hawdd
  • peidiwch â defnyddio matsis na thanwyr i oleuo poptai nwy - mae dyfeisiadau tanio y gellir eu prynu mewn siopau yn fwy diogel
  • peidiwch â gadael sosbenni a phadelli ar yr hob pan nad ydych chi o gwmpas -tynnwch nhw oddi ar yr hob os bydd angen i chi fynd o'r gegin
  • rhowch handlenni sosbenni ar ongl fel nad ydynt yn gorwedd dros fflam agored na thros ochr y popty
  • peidiwch â rhoi unrhyw beth sydd wedi'i wneud o fetel neu rywbeth metalig y tu mewn i'r microdon
  • pan fyddwch wedi gorffen coginio, sicrhewch eich bod yn diffodd y popty a'r hob

Diogelwch gyda'r sosban ffrio drydan

  • os byddwch chi'n defnyddio'r sosban gwneud sglodion yn rheolaidd, dylech ystyried prynu sosban ffrio drydan - ceir thermostatau ynddynt fel na fyddant yn gorboethi, sy'n golygu eu bod yn fwy diogel i'w defnyddio
  • sicrhewch fod y bwyd yn sych cyn ei roi yn yr olew poeth fel nad yw'r olew yn tasgu ac yn eich llosgi
  • os nad oes gennych sosban ffrio drydan a'ch bod yn defnyddio sosban gyffredin, peidiwch byth â'i llenwi fwy nag un traean
  • os bydd yr olew yn dechrau mygu, mae'n rhy boeth - diffoddwch y gwres a gadael iddo oeri

Os bydd sosban yn mynd ar dân

  • peidiwch â mentro - ewch allan a galw'r gwasanaeth tân
  • diffoddwch y gwres os yw'n ddiogel - peidiwch â symud y sosban
  • peidiwch â thaflu dŵr dros y sosban na defnyddio diffoddwr tân oherwydd fe fydd hyn yn creu pelen o dân

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU