Mae pawb yn edrych ymlaen at yr haf a chynnydd yn y tymheredd. Fodd bynnag, gall treulio cyfnodau hir yn yr haul, neu gyfnod poeth hir dros ben, arwain at broblemau iechyd.
Gall tymheredd yn yr haf yn y DU fod yn uwch na 32 Celsius (90 Fahrenheit) gan beri risg i iechyd. Mae'n bwysig eich bod chi a'r sawl rydych chi'n gofalu amdano'n cael digon o hylifau. Mae colli dŵr o'r corff yn gallu achosi problemau iechyd sylweddol ac arwain at farwolaeth mewn achosion eithafol. Plant ifanc a'r henoed sydd fwyaf mewn perygl. Efallai na fyddan nhw'n sylweddoli eu bod yn gorboethi ac nad ydyn nhw'n yfed digon o hylifau.
Os ydych chi'n poeni am wres yr haf, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Swyddfa Dywydd. Mae rhagor o gyngor am sut i leihau neu drin effeithiau gwres ar wefan NHS Direct. Gallwch gysylltu â NHS Direct drwy gyfrwng eu llinell gymorth, 0845 4647, neu ar-lein. Gallwch hefyd ofyn am gyngor a gwybodaeth gan eich fferyllydd lleol.
Gallwch ddilyn canllawiau syml er mwyn aros yn iach mewn cyfnod hir o dywydd cynnes:
Rhaid i chi ofalu am anifeiliaid anwes yn ystod tywydd cynnes hefyd. Gwnewch yn siŵr bod ganddyn nhw ddigon o awyr iach a hylif. Mae'n werth cofio hefyd bod yr haul ar ei gryfaf rhwng 11am a 3pm.