Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut mae delio ag adar sy'n niwsans

Holwch ymhle y gallwch chi gael cyngor pan fydd adar yn achosi problemau i chi

Delio â phroblemau adar mewn ffordd gyfreithiol

Pan fyddwch chi'n penderfynu beth i'w wneud ynghylch problemau gydag adar, mae'n bwysig eich bod chi'n gwybod beth yw'r gyfraith ynghyd â'i dilyn. Mae pob aderyn gwyllt a'u hwyau wedi'u gwarchod dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981; yn unol â'r Ddeddf hon ni cheir mynd ag adar na'u lladd, na chymryd neu ddinistrio eu hwyau na'u nythod (tra'u bod yn cael eu defnyddio neu wrth iddyn nhw gael eu hadeiladu) ac eithrio gyda thrwydded.

Gall Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig roi trwydded, naill ai mewn achosion unigol neu'n gyffredinol, i berchennog neu ddeilydd, er enghraifft, ddelio ag adar, eu hwyau neu eu nythod mewn rhai sefyllfaoedd, er enghraifft, er mwyn atal lledaenu afiechydon neu amddiffyn iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch yr awyr.

Yn unol â Deddf 1981, dim ond dulliau rheoli heb ladd gaiff eu defnyddio i ddelio ag adar, eu hwyau neu eu nythod er mwyn atal difrod i eiddo neu oherwydd bod yr adar yn niwsans mewn ffyrdd eraill, megis achosi sun, drewdod neu gynnau larwm lladron.

Mae gwybodaeth am ddulliau rheoli adar heb eu lladd ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Mae'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar hefyd yn rhoi gwybodaeth a chyngor am sut y gallwch chi atal colomennod fod yn niwsans heb eu niweidio.

Sut gall adar fod yn broblem

Mae baw adar yn gallu peri risg i iechyd a diogelwch y cyhoedd. Maen nhw'n gallu gostwng safonau hylendid mewn llefydd bwyd gan wneud llwybrau a llwybrau cerdded yn llithrig ac yn anniogel. Gall adar gario afiechydon hefyd.

Y mathau o adar sy'n achosi'r problemau mwyaf yw:

  • colomennod
  • gwylanod
  • drudwy
  • mewn parciau yn gyffredinol - gwyddau Canada

Weithiau gall rhywogaethau eraill megis aderyn y to, aderyn du, robin a sigl-i-gwt achosi problemau pan maen nhw o gwmpas llefydd bwyd.

Os cewch chi broblemau gydag adar, mae'n werth nodi pa fath o aderyn sy'n achosi'r broblem. Gallai wneud gwahaniaeth i chi o ran beth allwch chi ei wneud i ddelio â'r broblem. Gallwch edrych mewn llyfr adar, gwyddoniadur neu ar wefan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU