Oes angen help arnoch chi i fyw'n annibynnol oherwydd problemau alcohol neu gyffuriau, oherwydd eich oed, problemau iechyd meddwl, wrth adael gofal neu garchar - neu am unrhyw reswm arall?
Os oes angen manylion am lety arnoch ynghyd â manylion gwasanaethau cefnogi sy'n ymwneud â thai, gallwch ymweld â Chyfeiriadur Gwasanaethau Cefnogi Pobl drwy ddilyn y ddolen isod. Mae hwn yn rhoi gwybodaeth am bob rhan o Loegr.
Ar ôl chi gyflwyno'ch eich hun, gallwch fwydo gwybodaeth am y math o gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi. Yna gallwch ddewis y math o wasanaeth sydd ei angen a ble rydych chi'n dymuno ei gael. Eir ati wedyn i chwilio am wasanaethau addas gan gyflwyno rhestr i chi a fydd yn cynnwys manylion cyswllt. Chi sy'n gyfrifol wedyn am gysylltu â'r gwasanaethau o'ch dewis.
Diben y wefan yw eich helpu chi i chwilio am bob math o gymorth a all eich helpu chi i fyw'n fwy annibynnol. Mae pob gwasanaeth cefnogi sy'n ymwneud â thai ledled Lloegr i gyd ar y wefan. Mae'n siop un stop ar-lein, sy'n golygu y gallwch chi chwilio am wasanaeth addas unrhyw le yn y wlad.
Ar y wefan ceir manylion unrhyw fath o gefnogaeth sy'n ymwneud â thai. Er enghraifft:
Mae'n bosibl bod rhesymau eraill pam bod angen help neu gefnogaeth arnoch chi gyda'ch trefniadau byw.
Mae miloedd o wasanaethau ar y safle i bob math o bobl. Maen nhw'n amrywio o dai gyda staff yn cysgu-i-mewn i bobl sydd ag anableddau dysgu neu grwpiau eraill, i dai gwarchod ar gyfer pobl oedrannus, hosteli prawf i gyn-droseddwyr, neu gefnogaeth ar-safle i rieni yn eu harddegau. Mae rhai o'r gwasanaethau hyn mewn llety, ac eraill yn wasanaethau cefnogi sy'n dod atoch chi lle'r ydych chi'n byw.
Os oes angen cefnogaeth arnoch chi ar frys, gallwch ddefnyddio'r wefan i ddod o hyd i wasanaeth ar unwaith. Neu gallwch ddod o hyd i gefnogaeth neu lety yn y tymor hir.
Bydd yn nodi enw'r gwasanaeth, pwy sydd yn ei redeg, ble a manylion y gefnogaeth y mae'n ei chynnig. Nodir hefyd sut mae modd i chi gael eich cyfeirio at wasanaeth a'r manylion cyswllt sydd eu hangen arnoch chi. Ni fydd y wefan yn dweud wrthych chi a oes gan unrhyw wasanaeth penodol lefydd gwag neu a fyddan nhw'n gallu eich helpu - bydd yn rhaid i chi gysylltu â nhw i gael gwybod hynny.
Weithiau ni chaiff cyfeiriad ei roi ar y wefan os yw'r gwasanaeth yn cefnogi grup o bobl - megis dioddefwyr trais yn y cartref, neu bobl sydd ag HIV/AIDS - a allai gael eu targedu gan eraill.
Bydd y wefan yn dweud wrthych chi sut y gallwch chi gysylltu â gwasanaeth. Weithiau, gwneir hyn drwy gysylltu â'r gwasanaeth yn uniongyrchol (hunangyfeirio) ac weithiau drwy gysylltu â rhywun arall, er enghraifft gwasanaeth prawf neu wasanaethau cymdeithasol, a all eich cyfeirio chi at y gwasanaeth.
Nac ydyn. Dim ond gwybodaeth am wasanaethau cefnogi sy'n ymwneud â thai sydd ar y wefan, er enghraifft, helpu i goginio, talu biliau a chyllidebu, neu lety sydd â staff cefnogi ar y safle. Caiff gwasanaethau gofal eu rhedeg ar wahân gan y gwasanaethau iechyd neu'r gwasanaethau cymdeithasol, ond dylent fod yn gweithio'n dda gyda'r gwasanaethau tai er mwyn eich helpu i fyw'n annibynnol yn llwyddiannus.