Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Tenantiaethau â chefnogaeth

Os ydych chi'n symud i dŷ cyngor newydd neu os ydych chi eisoes yn denant tŷ cyngor ac nad ydych chi'n ymdopi'n dda ar eich pen eich hun, gall eich cyngor eich helpu trwy gyfrwng y Gwasanaeth Tenantiaeth â Chefnogaeth.

Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Bwriad y gwasanaeth hwn yw helpu pobl ddiymgeledd i fyw mor annibynnol ag y bo modd a gwella ansawdd eu bywyd.

Dan y Gwasanaeth Tenantiaeth â Chefnogaeth, ceir dau fath o gynllun:

  • cymorth hyblyg, lle byddwch chi'n aros yn eich cartref a gweithiwr yn ymweld â chi (bob wythnos fel arfer), neu
  • cymorth mewn llety, lle byddwch chi'n symud i gynllun wedi'i gynllunio'n arbennig gyda gweithwyr ar y safle

Beth all y gwasanaeth ei gynnig?

Darperir y Gwasanaeth Tenantiaeth â Chefnogaeth er mwyn rhoi'r cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch chi i fyw mor annibynnol â phosibl. Efallai y gallan nhw eich helpu gyda rhai o'r canlynol neu'r canlynol i gyd:

  • sefydlu a chynnal eich cartref yn dda e.e. delio â materion megis cael nwy, trydan a dur yn eich cartref
  • dod o hyd i ddodrefn
  • rhoi trefn ar rent a biliau
  • rheoli arian a hawlio budd-daliadau
  • cael yswiriant a sicrhau diogelwch
  • cyflawni'ch dyletswyddau fel tenant
  • manteisio i'r eithaf ar eich cymdogaeth e.e. dod o hyd i siopau a gwasanaethau
  • chwilio am swyddi
  • hyfforddiant neu gyrsiau
  • defnyddio amser hamdden
  • cysylltu pan fo angen cymorth ychwanegol e.e. siarad am broblemau
  • cael cyngor arbenigol am bethau megis dyled, iechyd meddwl, cyffuriau neu alcohol, cysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol neu sefydliadau eraill

Beth sydd ar gael?

Efallai y cewch eich gweithiwr cefnogi eich hun a fydd yn trafod unrhyw broblemau gyda chi. Byddan nhw'n cytuno ar 'gynllun cefnogi' gyda chi, a fydd yn dweud wrthych chi beth i'w ddisgwyl a pha mor aml y byddan nhw'n ymweld â chi.

Nod eich cyngor yw eich helpu i gael eich traed danoch a byw mor annibynnol â phosibl. Ar ôl amser, fe welwch efallai nad oes angen y math hwn o gymorth arnoch neu fod angen llai o gymorth arnoch chi. Fodd bynnag, os bydd eich anghenion yn newid, gallwch gysylltu â'ch cyngor i ofyn am ragor o gymorth trwy gyfrwng y cynllun hwn.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU