Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cael help gyda phroblemau cyffuriau neu alcohol a chasglu gwastraff clinigol

Gall eich meddyg teulu eich helpu i gael cyngor a gall eich cyfeirio at wasanaethau am gymorth ar gyfer bod yn gaeth i alcohol neu gyffuriau. Gall eich cyngor hefyd eich helpu i gael gwared ar wastraff clinigol.

Help mewn argyfwng - alcohol

Cyffur yw alcohol sydd ag effeithiau cryf. Os byddwch chi'n sylwi ar rywun sydd wedi yfed alcohol ac sy'n ymddwyn mewn modd sy'n gwneud i chi bryderu am eu diogelwch neu ddiogelwch y bobl o'u cwmpas, neu sydd wedi bod yn wirioneddol sâl ar ôl yfed alcohol, cymerwch y camau canlynol:

  • dweud wrth y person eich bod yn poeni amdanyn nhw a'u diogelwch
  • ffonio 999 a gofyn am ambiwlans neu am gymorth gan yr heddlu
  • gwneud yn siŵr nad oes dim byd yn blocio'r bibell wynt, er enghraifft cyfog, a sicrhau nad ydyn nhw wedi llyncu eu tafod
  • peidio â gadael i'r person gysgu heb fod neb yn eu gwylio
  • peidio â gadael i'r person adael neu gerdded ar eu pen eu hunain
  • peidio byth â gadael i'r person yrru - cymryd eu hallweddi oddi arnyn nhw os yn bosibl cael cymorth gan yr heddlu neu barafeddygon mor gyflym ag y gallwch chi

Help mewn argyfwng - cyffuriau

Chwiliwch am arwyddion o berygl ynoch chi'ch hun neu bobl eraill sydd wedi cymryd cyffuriau - megis gorboethi, teimlo'n benysgafn, teimlo'n sâl, blinder sydyn, cur pen, crampiau a breichiau a choesau'n brifo.

Gallai pobl ar gyffuriau sy'n dangos y symptomau hyn neu'n sy'n edrych yn ofidus fod wedi cael adwaith alergaidd i'r cyffur maen nhw wedi'i gymryd, neu wedi cymryd gormod ohono. Mae'n bwysig cymryd y camau canlynol ar unwaith:

  • cael help ar unwaith, gan fod yn gwbl onest ynghylch unrhyw gyffuriau maen nhw wedi'u cymryd
  • ffonio 999 a gofyn am ambiwlans
  • dweud yn glir ac yn bwyllog ble mae'r claf, pa gyffuriau y mae wedi'u cymryd a beth yw'r symptomau
  • efallai y cewch gyfarwyddiadau i roi cusan bywyd, rhoi'r claf yn y safle adferol neu wneud rhywbeth arall i achub bywyd y person
  • gwneud yn siŵr nad oes dim byd yn blocio'r bibell wynt, er enghraifft cyfog, a sicrhau nad ydyn nhw wedi llyncu eu tafod
  • casglu tystiolaeth o unrhyw gyffuriau y gellid bod wedi'u cymryd - mae hyn yn bwysig dros ben i ddoctoriaid er mwyn iddyn nhw wybod beth yw'r driniaeth orau i'w rhoi
  • casglu cynwysyddion y cyffuriau, gan gynnwys deunydd lapio, pacedi, 'cling film', ffoil a nodwyddau a chael sampl bach o'r cyfog os oedd y person yn sâl
  • aros nes y daw'r ambiwlans

Cael help yn lleol

Mae gan nifer o gynghorau dimau cefnogi penodol ar gyfer problemau alcohol a chyffuriau. Gallwch wneud cais am y gwasanaeth hwn os oes angen help a chefnogaeth arnoch chi am eich bod yn ddibynnol ar gyffuriau ac alcohol, a'ch bod am wneud rhywbeth yn ei gylch.

Rhoddir triniaeth i'r rhai sydd fwyaf ei hangen yn gyntaf. Ar ben hynny, mae gweithwyr cymdeithasol arbenigol yn gweithio gyda phobl sy'n agored i gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol, megis pobl ddigartref.

Efallai y gall gofalwyr, ffrindiau a pherthnasau dderbyn cefnogaeth a chyngor hefyd - os ydych chi'n poeni am rywun rydych chi'n ei adnabod, cysylltwch â'ch cyngor lleol i holi am eu gwasanaethau cyffuriau ac alcohol.

Rhif ffôn y Llinell Gymorth Cyffuriau Genedlaethol yw 0800 77 66 00. Mae'n llinell gymorth rad ac am ddim a chyfrinachol dros y ffôn, sy'n rhoi gwybodaeth am gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Mae ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Rhif ffôn Drinkline, y Llinell Gymorth Alcohol Genedlaethol yw 0800 917 8282. Mae'n cynnig gwybodaeth, help a chyngor cyfrinachol ac mae ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Casglu nodwyddau a gwastraff clinigol arall

Gall eich cyngor lleol gasglu a chael gwared ar nodwyddau wedi'u defnyddio, cyffuriau, deunydd fferyllol a gwastraff meddygol. Cysylltwch â nhw i drefnu hyn os bydd ei angen arnoch.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Additional links

Cyngor iechyd

Ewch i NHS Choices i gal gwybodaeth am iechyd a gwasanaethau iechyd lleol yn Lloegr

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU