Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pobl ar goll - cymorth a chefnogaeth

Mae pobl yn mynd ar goll am wahanol resymau ac efallai y bydd yn rhaid i chi fod yn sensitif wrth geisio cysylltu â nhw. Gallwch gael gwybodaeth am bobl sydd ar goll o gofrestrau etholiadol a mynegeion genedigaethau, priodasau a marwolaethau. Gall elusennau sy'n canolbwyntio ar helpu pobl ar goll a'u teuluoedd hefyd ddarparu cymorth a chefnogaeth.

Chwilio drwy gofrestri etholiadol

Os oes gennych gyfeiriad diwethaf eich perthynas sydd ar goll, gallwch geisio chwilio drwy'r cofrestri etholiadol perthnasol drwy gysylltu â'ch cyngor lleol. Gall y cofrestri eich helpu i weld pa mor hir y mae person wedi byw mewn cyfeiriad penodol.

Os na allwch ddod o hyd i aelod o'ch teulu ar y gofrestr, gallai hyn olygu eu bod wedi symud cartref, wedi priodi neu wedi marw. Cedwir cyfres gyflawn o gofrestri etholiadol ar gyfer y DU er 1947 gan y Llyfrgell Brydeinig.

Chwilio drwy wybodaeth am enedigaethau, priodasau a marwolaethau

Mae Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol yn cofnodi bob genedigaeth, priodas a marwolaeth yng Nghymru a Lloegr. Fel arfer, mae mynegai Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol yn cynnwys blwyddyn, rhifyn, tudalen a rhanbarth y cofrestrwyd yr enedigaeth, y briodas neu'r farwolaeth. Gallwch ddod o hyd i restr o leoedd lle cedwir copïau llawn o'r mynegeion hyn ar wefan Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol. Mae llawer o swyddfeydd cofnodion siroedd a llyfrgelloedd lleol hefyd yn cadw cyfresi o fynegeion y gallwch ddod o hyd iddynt o bosib drwy chwilio drwy wefan eich cyngor lleol.

Gallwch archebu copïau o dystysgrifau geni, priodas a marwolaeth gan Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol ar gyfer digwyddiadau a gofrestrwyd 18 mis yn ôl neu fwy ar-lein, drwy'r post a dros y ffôn. Gellir cael tystysgrifau digwyddiadau a gofrestrwyd lai na 18 mis yn ôl o'ch swyddfa gofrestru leol, ond dim ond gan y rhanbarth y cofrestrwyd y digwyddiad. Dylai tystysgrifau gynnwys cyfeiriadau y gallwch chi chwilio amdanyn nhw yn y cofrestri etholiadol perthnasol.

Chwilio drwy ewyllysiau
Os ydych chi'n credu bod y person rydych chi'n chwilio amdano wedi marw, mae hefyd yn werth chwilio drwy'r mynegeion ewyllysiau a gedwir yn Ystafell Chwilio y Brif Gofrestrfa Brofiant yn Llundain. Hyd yn oed os nad ydych chi wedi llwyddo i ddod o hyd i enw yn y mynegai marwolaethau, mae'n werth chwilio drwy'r mynegai ewyllysiau. Efallai fod y person rydych yn holi yn ei gylch wedi marw dramor ar wyliau neu ar fusnes neu tra'r oeddynt ar ddyletswydd gyda'r lluoedd arfog. Mae'r Archifau Cenedlaethol yn cadw set o fynegeion ewyllysiau o 1858 i 1943.

Chwilio i weld a yw'r person wedi newid enw
Mae'n syniad da hefyd chwilio i weld a yw'r person wedi newid enw. Drwy weithred newid enw y bydd y rhan fwyaf o bobl yn newid eu henwau y dyddiau hyn, gan ddefnyddio twrnai, ac ni chedwir cofnodion canolog oni bai bod y newid enw wedi'i gofrestru yn y Llysoedd Barn Brenhinol. Mae modd cael gwybodaeth am enwau sydd wedi'u newid ac wedi'u cofrestru o fewn y pum mlynedd diwethaf drwy ysgrifennu at y Llysoedd Barn Brenhinol yn Llundain. Cedwir enwau sydd wedi'u newid ac wedi'u cofrestru dros bum mlwydd oed gan yr Archifau Cenedlaethol yn Kew.

Defnyddio gwasanaeth olrhain

Mae llawer o fudiadau a busnesau yn cynnig olrhain pobl ar goll ar y we ar eich rhan. Mae rhai gwefannau'n cynnig ymchwilio am ffi, ond dylech sicrhau y caiff y gwasanaeth ei redeg gan bobl brofiadol yn y math hwn o ymchwiliad.

Cymorth ar-lein ar gyfer pobl ar goll a'u teuluoedd

Elusen Missing People
Mae Missing People (a elwid gynt yn National Missing Persons Helpline) yn elusen o'r DU sydd wedi ymrwymo i helpu pobl sydd ar goll a chefnogi eu teuluoedd. Gallwch wneud y canlynol:

  • ffonio llinell gymorth genedlaethol 24 awr ar gyfer pobl sy'n chwilio am rywun sydd wedi mynd ar goll
  • gweld cofrestr gyfrifiadurol genedlaethol gyfrinachol o bobl ar goll
  • cael cyngor, arweiniad a chymorth ymarferol i deuluoedd pobl ar goll
  • ffonio llinell gymorth gyfrinachol 24 awr ar gyfer pobl sydd wedi gadael cartref ac yn dymuno cysylltu â rhywun
  • cael gafael ar broffiliau pobl ar goll

Gallwch ffonio'r llinell gymorth gyfrinachol 24 awr ar 0500 700 700.

Pobl ifanc ar goll
Mae Llinell Gymorth Missing People Runaway yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc dan 18 oed sydd wedi rhedeg i ffwrdd o gartref neu ofal, neu sydd wedi eu gorfodi i adael cartref. Gallwch eu ffonio ar 0808 800 70 70 a chael cyngor a gwybodaeth i'ch cefnogi a'ch galluogi i benderfynu beth i'w wneud nesaf.

Gwasanaeth Chwilio am Deulu Byddin yr Iachawdwriaeth
Mae Gwasanaeth Chwilio am Deulu Byddin yr Iachawdwriaeth yn helpu i chwilio am berthnasau dros 18 oed. Gallwch eu ffonio ar 0845 634 4747.

Canolfan Pobl Goll yr Asiantaeth Gwella Plismona Cenedlaethol
Mae Canolfan Pobl Goll yr Asiantaeth Gwella Plismona Cenedlaethol yn helpu'r heddlu gyda'u hymchwiliadau am bobl ar goll drwy gadw cofnodion o bobl ar goll a heb eu hadnabod. Os ydych ar goll a'ch bod am roi gwybod i'ch teulu eich bod yn ddiogel ond nad ydych am iddynt wybod lle'r ydych, gallwch gysylltu â'r Ganolfan Pobl Goll.

Mae'r Ganolfan Pobl Goll hefyd yn rheoli ac yn cydlynu'r gwasanaeth Child Rescue Alert a'r wefan Missing Kids, sydd wedi'u cynllunio i helpu gydag archwiliadau plant ar goll.

Gwefannau defnyddiol eraill
Mae 'Cyndi's List' yn darparu dolenni i nifer fawr o safleoedd eraill sy'n ymwneud â dod o hyd i bobl sydd ar goll.

Mae 'Missing You' yn eich galluogi i bostio neges ar y safle a darllen negeseuon eraill.

Mae'r wefan 'look4them' yn darparu gwasanaeth gan wyth o fudiadau'r DU sy'n gysylltiedig â chwilio am bobl ar goll.

Additional links

Cyngor iechyd

Ewch i NHS Choices i gal gwybodaeth am iechyd a gwasanaethau iechyd lleol yn Lloegr

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU