Gellir dosbarthu prydau poeth, a phrydau wedi'u rhewi weithiau, i'ch cartref os ydych yn cael problemau coginio. Cyfeirir at hwn weithiau fel y gwasanaeth 'pryd ar glud'.
Fel gyda'r rhan fwyaf o gefnogaeth a drefnir i'ch helpu chi i aros yn fwy annibynnol, gellir cynnig gwasanaeth 'prydau i'ch cartref' ichi ar ôl i'r gwasanaethau cymdeithasol lleol asesu'ch anghenion.
Codir tâl am y gwasanaeth hwn fel arfer. Gwneir amrywiaeth o brydau, gan ystyried gofynion diwylliannol a chrefyddol pobl, eu dewis fwydydd a'u hanghenion deietegol.
Ar ôl ymweliad â'ch cartref, dylech dderbyn 'cytundeb gwasanaeth' syml. Bydd yn nodi ar ba ddyddiau y byddwch yn derbyn prydau, y gost i chi a sut i gysylltu â rheolwr y gwasanaeth.
Efallai y cynigir gwasanaeth prydau wedi'u rhewi i chi. Yn aml, dim ond os na allwch ymdopi â'r gwasanaeth prydau wedi'u rhewi y bydd eich gwasanaethau cymdeithasol lleol yn dosbarthu prydau poeth i chi bob diwrnod.
Efallai y gallwch hefyd fenthyca offer i ailgynhesu'r pryd eich hun a rhewgell fechan os oes angen un arnoch.
Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am brydau i'ch cartref.