Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Amddiffyn rhag troi allan

Os ydych yn byw mewn eiddo preswyl mae'r gyfraith yn eich amddiffyn rhag harasio a chael eich troi allan yn anghyfreithlon. Mae'n gwneud hyn trwy wneud harasio a throi allan anghyfreithlon yn droseddau a thrwy alluogi dioddefwr i hawlio iawndal yn y llys sifil.

Dyletswyddau'r landlord

Dan y gyfraith, mae'n drosedd i landlord:

  • weithredu mewn ffordd sy'n debygol o darfu ar heddwch a chysur tenant neu unrhyw un sy'n byw gyda'r tenant
  • tynnu gwasanaethau yn ôl neu eu hatal yn gyson pan fo angen rhesymol am y gwasanaethau hynny ar y tenant er mwyn byw yn yr eiddo fel cartref
  • gorfodi tenant i adael ei gartref, neu ei rwystro rhag defnyddio rhan ohono
  • gwneud unrhyw beth sy'n stopio tenant rhag gwneud y pethau y gallai ddisgwyl eu gwneud fel arfer
  • mynd â chartref rhywun oddi arno ef neu hi yn anghyfreithlon

Efallai y bydd yn rhaid i berson a geir yn euog gan ynadon o drosedd dan Ddeddf Gwarchod rhag Troi Allan 1977 orfod talu dirwy neu fynd i garchar am chwe mis, neu'r ddau. Os aiff yr achos i Lys y Goron, gellir carcharu am hyd at ddwy flynedd, neu ddirwy, neu'r ddau.

Ble ddylwn i fynd am gyngor?

Os teimlwch fod eich landlord yn ceisio'ch taflu chi allan o'ch cartref, dylech siarad â'ch cyngor lleol. Efallai fod ganddynt swyddog cysylltiadau tenantiaeth a fydd yn gallu helpu neu rywun yn yr adrannau tai neu iechyd yr amgylchedd sy'n arbenigo ym maes harasio.

Neu gallech ofyn am gyngor gan ganolfan cyfraith, canolfan cymorth tai, Canolfan Cyngor Ar Bopeth neu gyfreithiwr.

Fel arfer rhestrir cyfeiriadau sefydliadau cynghori yn y llyfr ffôn neu yn y llyfrgell leol, neu gellir eu cael gan eich cyngor lleol. Os oes trais corfforol ynghlwm wrth yr achos, dylech gysylltu â'r heddlu.

Mae gan gynghorau lleol rym i gychwyn achos cyfreithiol gyda throseddau harasio a throi allan yn anghyfreithlon dan y Ddeddf. Os yw'r dystiolaeth yn cyfiawnhau hynny, gallant ymchwilio i'r achos ac erlyn os credant fod trosedd wedi'i gyflawni. Mae gan gyngor lleol bwerau prynu gorfodol hefyd, y gall eu defnyddio dan rhai amgylchiadau os oes harasio difrifol yn digwydd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU