Bydd eich cyngor bob amser yn cymryd camau rhesymol i geisio datrys problemau gyda thenantiaeth neu ôl-ddyledion rhent. Fodd bynnag, os bydd popeth arall yn methu, bydd y cyngor yn gwneud cais i'r llysoedd i adfeddiannu eiddo.
Y rheswm mwyaf cyffredin dros droi tenant allan yw peidio â thalu rhent, er y gellir troi tenantiaid allan am dorri unrhyw agwedd arall ar eu cytundeb tenantiaeth.
Unwaith y ceir gorchymyn meddiannu gan y llysoedd, rhaid i unrhyw gais i gael newid telerau'r gorchymyn neu atal y troi allan gael ei gyflwyno i'r llys ei hun yn hytrach nag i'ch cyngor.
Os ydych yn wynebu gorchymyn meddiannu, fe'ch cynghorir i gael cyngor cyfreithiol annibynnol. Gallwch gysylltu â thwrnai yn uniongyrchol neu gall y Canolfan Cyngor ar Bopeth lleol roi cyngor di-dâl i chi.
Does dim sicrwydd na fydd y llysoedd yn eich troi chi allan os oes gennych blant.
Os cewch eich troi allan, bydd rhaid i chi ddod o hyd i lety arall i chi eich hun ac unrhyw un arall sy'n byw gyda chi. Mae'n debygol y bydd tenantiaid sy'n cael eu troi allan am beidio â thalu'r rhent yn cael eu hystyried yn denantiaid sydd wedi gwneud eu hunain yn ddigartref yn fwriadol ac, os felly, ni fyddai rheidrwydd ar gyngor i roi llety arall iddynt (ac eithrio am gyfnod byr i roi cyfle iddynt ddod o hyd i gartref newydd).
Bydd y llys yn dweud wrthych ar ba ddyddiad a pha bryd y bydd y beili'n cyrraedd. Bydd cynrychiolydd o adran dai eich cyngor yno hefyd. Bydd cloeon yr adeilad yn cael eu newid a bydd unrhyw eiddo yn dal yno yn cael ei glirio.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am gael eich troi allan.
Gorau po gyntaf i chi gymryd camau neu gael cyngor. Mae'n fwy anodd gwneud cytundebau'n hwyr yn y dydd. Gallwch wneud cais i ohirio'r gorchymyn meddiannu. Bydd y llys wedyn yn ailystyried eich achos ond efallai na fydd yn cytuno i newid y penderfyniad. Cofiwch, os ydych yn cael trafferthion talu eich rhent: