Os ydych yn wynebu cael eich adfeddiannu, gall mynd i'r llys fod yn brofiad gofidus. Gall y cynllun Cymorth y Llys ar gyfer achosion Ildio Meddiant eich helpu i gael cyngor cyfreithiol safonol. Sicrhewch eich bod yn bresennol yn y gwrandawiad llys. Mae'n bosib y gallai'r cynllun hwn roi cyngor a chynrychiolaeth am ddim i chi ar y diwrnod.
Gallwch gael cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth mewn llys am ddim dan y cynllun Cymorth y Llys ar gyfer achosion Ildio Meddiant os ydych yn wynebu cael eich adfeddiannu neu eich troi allan. Gall y cynllun fod yn ffynhonnell o gymorth munud olaf os nad ydych wedi trefnu cyngor cyfreithiol cyn y gwrandawiad llys. Gallwch gael cymorth os ydych yn denant neu'n talu morgais (gan gynnwys ail forgeisi) ar gyfer gwrandawiadau meddiannu a cheisiadau gwarantau.
Mae'r cynllun yn darparu cynghorwyr arbennigol a all roi cyngor cyfreithiol am ddim i chi ar ddiwrnod eich gwrandawiad. Bydd y cynghorydd yn eich cynrychioli yn y gwrandawiad ac yn dilyn unrhyw gamau dilynol. Byddant yn eich helpu i egluro pam nad ydych wedi gwneud eich taliadau. Gallant eich helpu hefyd i ddod i gytundeb gyda'ch benthyciwr morgais neu landlord ar gyfer talu eich dyledion.
Gallwch gael cymorth dan y cynllun Cymorth y Llys ar gyfer achosion Ildio Meddiant beth bynnag fo'ch sefyllfa ariannol - ar yr amod bod gennych wrandawiad ar yr un diwrnod.
Mae angen i chi fod yn bresennol yn eich gwrandawiad - mae'n gyfle i chi ddweud wrth y llys pam eich bod ar ei hôl hi gyda'ch taliadau morgais neu rent. Os na fyddwch yn dod i'r llys, gall y llys benderfynu eich troi chi allan o'ch cartref. Unwaith i'r llys wneud y penderfyniad hwn, mae'n anodd iawn rhwystro hynny rhag digwydd.
Os oes gennych chi reswm da, efallai y caiff yr achos ei ohirio. Byddai hyn yn rhoi amser i chi ddal i fyny â'ch ad-daliadau.
Ceir mwy o wybodaeth am drefn y llys gydag achosion ildio meddiant ar wefan Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi (GLlEM).
Darperir y cynllun Cymorth y Llys ar gyfer achosion Ildio Meddiant mewn 187 o lysoedd sirol yng Nghymru a Lloegr. I gael gwybod mwy am y cynlluniau yn eich ardal leol chi, cysylltwch â'ch cyngor lleol neu'r llys lle gwrandewir eich achos. Fe welwch fanylion cyswllt y llys ar y gwaith papur y dylech fod wedi'i gael ar gyfer eich achos. Gallwch hefyd gysylltu â'r Cyngor Cyfreithiol Cymunedol, a all roi cyngor cyfreithiol arbenigol a chyfrinachol i chi.
Os nad oes cynllun meddiannu ar gael yn eich ardal chi, mae'n bosib y gall gwasanaethau cynghori eraill eich helpu. Holwch y llys lle gwrandewir eich achos.