Os ydych chi'n ei chael yn anodd ad-dalu eich morgais ac mewn perygl o golli eich cartref fe allech gael cymorth i aros yn eich cartref. Cewch yma wybod a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun Achub Morgais.
Bydd angen i chi fodloni'r meini prawf cymhwysedd i gael cymorth gan y cynllun Achub Morgais. Ni fydd y cynllun Achub Morgais yn helpu pobl mewn 'ecwiti negatif', sef pan mae'r swm sy'n ddyledus ar eich morgais yn uwch na gwerth eich cartref. Os ydych mewn ecwiti negatif neu'n ei chael yn anodd ad-dalu eich morgais, dylech sicrhau eich bod:
Am fwy o wybodaeth gweler 'Pryderon am eich morgais - cael cyngor ar sut i gadw eich cartref'.
Dim ond yn Lloegr y mae'r cynllun Achub Morgais ar gael. Mae cynlluniau gwahanol naill ai ar waith neu wrthi'n cael eu datblygu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Edrychwch ar wefan eich cyngor lleol i gael rhagor o wybodaeth.
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun rhaid i'ch aelwyd gynnwys rhywun ag 'angen blaenoriaethol.' Er enghraifft:
Bydd angen i chi fodloni'r meini prawf dilynol hefyd:
Mae perchnogion eiddo prydles a rhydd-ddaliadol yn gymwys ar gyfer y cynllun Achub Morgais.
Gellir eich cyfeirio at gymorth gan y cynllun Achub Morgais drwy asiantaethau cynghori, llysoedd neu fenthycwyr. Gallwch hefyd gysylltu â'ch cyngor lleol am gyngor.
Os ydych chi'n gymwys, bydd y cyngor yn trefnu i chi gwrdd â'u cynghorwyr ariannol. Byddant yn cytuno ar gynllun gyda chi i reoli eich dyled, neu ryw ffordd arall i chi dalu costau eich cartref.
Yna, efallai y bydd y cyngor yn cysylltu â Landlord Cymdeithasol Cofrestredig neu Asiant Cymorth Prynu i asesu eich cartref. Efallai y bydd y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn eich helpu naill ai drwy 'fenthyciad rhannu ecwiti' neu drwy gynllun 'morgais i rentu' y Llywodraeth.
Benthyciad rhannu ecwiti
Gall y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig ddarparu benthyciad rhannu ecwiti a fydd yn talu cyfran o'ch morgais. Am wneud hyn maent yn cael cyfran o 'ecwiti' eich eiddo - sef gwerth eich cartref ar y farchnad, heb weddill y morgais sy'n ddyledus. Bydd y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn cytuno ar y gyfran, a ddylai fod rhwng 25 a 75 y cant o gyfanswm y morgais. Bydd yn seiliedig ar yr asesiad o arian eich cartref. Bydd hyn yn lleihau eich morgais gan ddod ag ef i lefel fwy fforddiadwy er mwyn i chi allu parhau i'w ad-dalu.
Morgais i rentu gan y Llywodraeth
Efallai y bydd y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn argymell morgais i rentu gan y Llywodraeth, sy'n golygu y bydd y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn talu eich morgais yn llawn drwy brynu'r eiddo. Byddwch chi'n gallu aros yn eich cartref a gwneud ad-daliadau i'r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig fel tenant ar lefel y gallwch ei fforddio.
Byddwch yn parhau i gael cyngor ar ôl i chi fynd yn rhan o'r cynllun er mwyn eich helpu i reoli eich arian.