Os ydych yn cael trafferth gyda'ch ad-daliadau morgais, mae'n rhaid i chi gael cyngor cyn gynted â phosib er mwyn osgoi cael eich cartref wedi'i adfeddiannu. Cewch wybod yma sut i gael cymorth gyda’ch costau tai a beth i’w drafod gyda’ch benthyciwr ynghylch bodloni’ch taliadau morgais.
Er mwyn osgoi cael eich cartref wedi'i adfeddiannu, mae angen i chi dalu eich dyledion morgais cyn unrhyw ddyled eraill. Rhowch wybod i'ch benthyciwr ar unwaith os ydych yn poeni am eich ad-daliadau. Dylech hefyd gael cyngor gan gynghorydd dyled annibynnol am ddim gan sefydliad megis Cyngor ar Bopeth neu Shelter. Maent yn arbenigwyr a gallant eich helpu drwy eich holl ddewisiadau er mwyn sicrhau y gallwch aros yn eich cartref.
Gall cynghorydd dyled eich helpu i reoli eich costau tai a dod o hyd i ffyrdd o dalu rhywfaint o'ch dyledion. Pan ewch i weld y cynghorydd, ewch â gwybodaeth am incwm misol eich cartref a'ch costau gyda chi, yn ogystal ag unrhyw daliadau dyledion rydych yn eu talu ac unrhyw fudd-daliadau rydych yn eu hawlio.
Gall y cynghorydd eich helpu i wneud y canlynol:
Cysylltwch â'ch benthyciwr os allwch fodloni'ch taliadau morgais ar ôl ystyried eich cyllideb - cynigiwch i dalu unrhyw ddyledion dyledus.
Darllenwch 'Cynllunio ffordd i dalu dyledion' i gael rhagor o wybodaeth am sut i reoli eich dyledion a llunio cynllun i'w talu'n ôl.
Bydd gennych fwy o siawns o gadw eich cartref os byddwch yn siarad â'ch benthyciwr ac yn dangos eich bod yn fodlon talu eich ad-daliadau.
Os ydych chi ar ei hôl hi gyda'ch ad-daliadau, dylai eich benthyciwr anfon llythyr atoch yn rhoi gwybod i chi:
Peidiwch ag anwybyddu'r llythyr hwn nag unrhyw alwadau ffôn gan eich benthyciwr. Os nad yw eich benthyciwr yn gwybod pam nad ydych yn eu talu gallent ddechrau cymryd camau cyfreithiol i adfeddiannu eich cartref. Os byddwch yn cysylltu â'ch benthyciwr, mae'n bosib y cewch amser ychwanegol i osgoi colli eich cartref - hyd yn oed os bydd yn dechrau cymryd camau i adfeddiannu eich cartref.
Dylai eich benthyciwr gyfathrebu â chi mewn ffordd y gallwch ei ddeall. Os nad ydych yn deall y llythyr, cysylltwch â'ch benthyciwr i gyfarfod â nhw i'w drafod. Gallech hefyd fynd â'r llythyr at gynghorydd dyled annibynnol.
Mae'n rhaid i'ch benthyciwr eich trin yn deg ac ystyried beth allant ei wneud i'ch atal rhag colli eich cartref. Gallwch weld pa gamau y mae'n rhaid i'ch benthyciwr eu cymryd cyn dechrau cymryd camau i adfeddiannu eich cartref drwy ddilyn y ddolen isod.
Dylai eich benthyciwr gytuno gyda chi ar y dewis gorau ar gyfer rheoli eich ad-daliadau. Efallai y byddant:
Cyn cytuno ar gynllun, cofiwch y gall unrhyw newidiadau i'ch morgais arwain at gosbau neu gostau. Gallech orfod talu mwy yn yr hirdymor - siaradwch â chynghorydd am sut yr effeithir arnoch gan unrhyw newidiadau i'ch morgais.
Efallai mai dim ond ateb tymor byr a fydd beth bynnag y byddwch yn ei drefnu, felly dylech gadw mewn cysylltiad â'ch benthyciwr yn rheolaidd. Rhowch wybod iddynt am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau.
Os nad yw eich benthyciwr yn cytuno gyda chi ar gynllun neu os na allwch dalu o gwbl dylech siarad â chynghorydd annibynnol ar unwaith.
Os bydd eich cyflog yn gostwng dros dro, gallech gael cymorth gan Gefnogi Morgais Perchnogion Tai. Gallai Cefnogi Morgais Perchnogion Tai eich helpu drwy leihau eich taliadau morgais misol am gyfnod penodol tra'r ydych yn codi'n ôl ar eich traed eto. I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.
Paratoi i weld cynghorydd
Os hoffech argraffu'r holl wybodaeth hon i fynd â hi gyda chi pan fyddwch yn mynd i weld cynghorydd, llwythwch y daflen 'Ydych chi'n poeni am eich morgais?' oddi ar y we drwy ddilyn y ddolen isod.
Mae'n bosib na allwch gadw eich cartref, hyd yn oed ar ôl cael cyngor a chael gwybod am yr holl gymorth sydd ar gael. Sicrhewch eich bod yn cael cyngor cyn cymryd camau i werthu. Bydd angen i chi brofi nad ydych wedi gwneud eich hun yn 'ddigartref yn fwriadol' neu mae'n bosib na fydd eich cyngor lleol yn gallu eich helpu i gael cartref newydd.
Cynllun Achub Morgais
Mae'n bosib y cewch help drwy'r cynllun Achub Morgais os ydych yn wynebu cael eich adfeddiannu ac mewn perygl o fynd yn ddigartref. I gael gwybod a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun dilynwch y ddolen isod.