Gallai'r cynllun Cefnogi Morgais Perchnogion Tai eich helpu os bydd incwm eich cartref yn gostwng dros dro yn annisgwyl a'i bod yn anodd dal i ad-dalu'ch morgais. Yma, cewch wybod am y cymorth sydd ar gael - gallech fod yn gymwys i ohirio rhywfaint o'ch ad-daliadau llog am hyd at ddwy flynedd.
Bydd y cynllun yn helpu pobl sy'n cael trafferth wrth ad-dalu eu morgais, ond sy'n debygol o gael eu harian yn ôl mewn trefn yn y dyfodol agos.
Er enghraifft, efallai eich bod:
Os cewch eich derbyn dan y cynllun Cefnogi Morgais Perchnogion Tai, bydd eich benthyciwr yn gohirio rhywfaint o'r llog misol sy'n ddyledus ar eich morgais. Bydd hyn yn gostwng eich taliadau am hyd at ddwy flynedd. Ni chaiff y ddyled ei dileu'n llwyr - bydd rhaid i chi ei thalu'n ôl yn y pen draw, gyda llog.
Dod o hyd i fanylion cyswllt cynghorwyr ariannol arbenigol, a gweld a yw'ch benthyciwr chi yn cynnig y cynllun Cefnogi Morgais Perchnogion Tai
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun Cefnogi Morgais Perchnogion Tai, rhaid i chi fod wedi cael gostyngiad dros dro yn eich incwm, ac na allwch dalu'ch morgais yn fisol. Bydd angen i chi newid eich morgais i fod yn un llog yn unig, os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes. Bydd eich benthyciwr hefyd yn gofyn i chi ymroi i dalu cymaint ag y gallwch ei fforddio bob mis.
Efallai y bydd gan eich benthyciwr amodau eraill y bydd angen i chi eu bodloni. Er enghraifft, efallai y dywedan nhw mai dim ond swm bychan o gynilion y dylech chi ei gael. Siaradwch â'ch benthyciwr i weld a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun Cefnogi Morgais Perchnogion Tai.
Nid yw pob benthyciwr morgais yn cynnig y cynllun hwn. Dilynwch y ddolen isod i weld a yw'ch benthyciwr chi'n cynnig y cynllun, neu'n cynnig cymorth tebyg.
Fyddwch chi ddim yn gymwys ar gyfer y cynllun Cefnogi Morgais Perchnogion Tai:
I gael mwy o wybodaeth am y cymhorthdal ar gyfer llog morgais, dilynwch y ddolen isod.
Os ydych chi am fwrw ymlaen a bod eich benthyciwr yn eich derbyn ar gyfer y cynllun:
Ar ôl blwyddyn, cewch adolygu'r sefyllfa gyda'ch benthyciwr a gyda chynghorydd annibynnol. Byddan nhw'n edrych i weld a ydych yn dal i fod yn gymwys dan y cynllun ac ai dyna'r dewis gorau i chi.
Pan fyddwch chi'n dechrau gwneud y taliadau arferol eto, bydd angen i chi gytuno â'ch benthyciwr sut i ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus. Gallai hyn olygu cynyddu'ch taliadau misol neu gynyddu hyd eich morgais.
Gweler 'Cefnogi Morgais Perchnogion Tai - astudiaethau achos' am enghreifftiau o sut mae pobl mewn gwahanol sefyllfaoedd yn gymwys ar gyfer y cynllun, a sut gall fod o gymorth.
Mae'r taflenni isod yn rhoi gwybodaeth gyffredinol i chi am fanteision a pheryglon y cynllun Cefnogi Morgais Perchnogion Tai. Fodd bynnag, os mai Barclays (gan gynnwys FirstPlus), HSBC, Nationwide neu Santander (gan gynnwys Abbey ac Alliance and Leicester) yw'ch benthyciwr, siaradwch â hwy i gael rhagor o wybodaeth.