Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ble i aros ar wyliau yn y DU

Ydych chi'n ystyried cymryd rhywfaint o wyliau er mwyn ymweld â rhan arall o'r DU? A oes angen dod o hyd i westy neu wely a brecwast arnoch er mwyn ymweld â ffrind neu aelod o'r teulu? Mae'r wybodaeth a'r dolenni ar y dudalen hon yn rhoi cyflwyniad defnyddiol i lety gwyliau ym Mhrydain.

Safonau llety

Mae sicrhau ansawdd yn bwysig pan fyddwch yn chwilio am rywle i aros. Bydd y Byrddau Croeso Cenedlaethol yn ymweld â llawer o lefydd gwyliau bob blwyddyn er mwyn dyfarnu'r graddau a roddir am ansawdd llety. Gallwch ddefnyddio'r graddau a'r safonau hyn i'ch helpu i ddod o hyd i lety addas. Gallwch hefyd chwilio am wahanol fathau o lety gwyliau ar wefan Ymweld â Phrydain.

Canolfannau Croeso

Mae Canolfannau Croeso Lleol (TICs) yn cynnig gwybodaeth fanwl, ddiweddaraf i chi. Maent hefyd yn darparu gwasanaethau defnyddiol fel trefnu llety. Mae pob Canolfan Groeso yn perfformio at safonau cenedlaethol a rhanbarthol ac yn rhoi gwybodaeth na fyddech yn ei chael mewn llyfrau teithio.

Mae gan bob Canolfan Groeso staff lleol sy'n deall anghenion a disgwyliadau ei hymwelwyr ac yn gwbl gyfarwydd â'u hardal. Fe allan nhw gynnig gwybodaeth a chyngor i chi am lefydd i ymweld â nhw, digwyddiadau, llety a systemau trafnidiaeth lleol. Gallwch brynu amrywiaeth o bethau o Ganolfannau Croeso, yn cynnwys mapiau, llyfrau teithio a thocynnau adloniant. Gallwch hefyd drefnu i staff drefnu eich llety pan fyddwch yn cyrraedd neu ymlaen llaw.

Chwiliwch drwy wefan Ymweld â Phrydain i ddod o hyd i'r Ganolfan Groeso agosaf i'ch cyrchfan wyliau.

Dewis eich cyrchfan wyliau

Edrychwch ar y cyrchfannau sydd ar wefan Ymweld â Phrydain i gael syniadau am wyliau a manylion am wahanol ardaloedd yn y DU.

Allweddumynediad llywodraeth y DU