Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Atyniadau a digwyddiadau yn y DU

Mae pob math o atyniadau a digwyddiadau y gallwch eu mwynhau yn y DU. O lwybrau natur i dai hanesyddol, mae 'na ystod eang o leoedd y gallwch ymweld â nhw, a gweithgareddau i fod yn rhan ohonynt. Beth bynnag fo'ch oed neu'ch gallu, bydd yna rywbeth ar eich cyfer. Felly pam na edrychwch chi i weld beth sy'n digwydd?

Ble i gael gwybod mwy am beth sy'n digwydd

Gall eich Canolfan Groeso leol roi gwybodaeth a chyngor i chi am ddigwyddiadau. Efallai hefyd y bydd gan eich cyngor lleol wybodaeth am atyniadau a digwyddiadau yn eich ardal. Yn yr un modd, gallwch ddod o hyd i restr digwyddiadau lleol, newyddion ac adolygiadau ar adran Lleol i Mi gwefan y BBC.

Mae gwefan Ymweld â Phrydain yn llawn o wybodaeth am atyniadau ledled y wlad.

Ble i gael gwybod mwy am lefydd i ymweld â nhw

Gallwch ddod o hyd i gyfoeth o wybodaeth am leoedd lleol diddorol ar wefannau Ymweld â Phrydain ac Ymweld â Chymru. Mae gan y gwefannau hyn awgrymiadau gwych am ddyddiau llawn hwyl. Er enghraifft, gallech:

  • ymweld ag ardal a chanddi gysylltiadau â ffilm neu deledu
  • dilyn ôl troed y Brenin Arthur
  • teithio'n ôl drwy amser gyda thaith i dŷ neu balas hanesyddol
  • ymweld ag un o'r nifer o adeiladau hardd y mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu English Heritage yn berchen arnynt
  • mynd am dro drwy goedwig, coetir neu warchodfa

Chwiliwch am wybodaeth am deithio ac am y tywydd cyn i chi fynd

Fydd angen ymbarél arnoch chi, neu a ddylech chi bacio'r eli haul? I gael gwybod sut mae'r tywydd yn argoeli, ewch i wefan y Swyddfa Dywydd i gael y rhagolygon diweddaraf.

Sut ewch chi yno - fydd yna dagfeydd ar yr M25 unwaith eto, neu a fyddai trên yn gallu'ch cludo'n gynt? Am wybodaeth a chyngor ar deithio, cymerwch gip ar ein tudalennau 'Cynllunio'ch taith'.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU