Mae'r Rheoliadau Adeiladu'n gosod safonau ar gyfer dylunio ac adeiladu adeiladau. Prif bwrpas hyn yw sicrhau iechyd a diogelwch y bobl sydd yn yr adeiladau hynny, neu sydd o'u cwmpas, ond mae hefyd ar gyfer arbed ynni a sicrhau mynediad i adeiladau.
Mae'n bwysig deall sut mae'r system rheoleiddio adeiladau'n berthnasol i'ch sefyllfa chi, gan mai chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â'r rheoliadau os byddwch yn gwneud gwaith adeiladu eich hun.
Os ydych yn cyflogi adeiladwr, ef fydd yn gyfrifol fel arfer - ond dylech gadarnhau hyn ar y cychwyn. Os mai chi yw perchennog yr adeilad, dylech gofio mai chi yn y pen draw fydd yn derbyn rhybudd gorfodi os nad yw'r gwaith yn cydymffurfio â'r rheoliadau.
Cofiwch - mae cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu'n fater gwahanol i gael caniatâd cynllunio i'ch gwaith.
Mae'r mathau canlynol o brosiectau'n cyfateb i 'Waith Adeiladu' fel y'i diffinnir yn Rheoliad 3 y Rheoliadau Adeiladu:
Os ydych yn bwriadu gwneud gwaith o'r fath, dylai gydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu.
Dylai'r gwaith ei hun fodloni'r gofynion technegol perthnasol yn y Rheoliadau Adeiladu ac ni ddylai'r ffabrig, na'r gwasanaethau na'r gosodion eraill gydymffurfio llai nag yr oeddynt cyn hynny oherwydd y gwaith - na bod yn beryglus. Er enghraifft, os byddwch yn ailosod ffenestri neu ddrysau allanol, dylai'r adeilad gydymffurfio cymaint ag yr oedd o'r blaen, neu, pan oedd y tu hwnt i'r safonau, ni ddylai ddisgyn o dan y safonau mewn perthynas ag:
Hefyd, yn yr enghraifft hon, dylai'r drws/ffenestr newydd fodloni'r gofynion yn llawn o ran arbed ynni ac awyru ar gyfer iechyd
Gall y Rheoliadau Adeiladu fod yn berthnasol i newidiadau penodol yn nefnydd adeilad presennol hefyd. Y rheswm am hyn yw y gallai newid defnydd adeilad olygu nad yw'r adeilad cyfan bellach yn cydymffurfio â'r gofynion sy'n berthnasol ar gyfer y math newydd o ddefnydd, ac felly y bydd angen ei uwchraddio i fodloni gofynion ychwanegol a nodir yn y rheoliadau y mae angen gwneud gwaith adeiladu ar eu cyfer.
Mae'r Rheoliadau Adeiladu'n berthnasol i'r gwaith adeiladu canlynol (a elwir yn 'rannau'):
Maent yn gosod amcanion neu swyddogaethau cyffredinol y dylai agweddau unigol dylunio ac adeiladu anelu at eu cyflawni. O'r herwydd, fe'u gelwir yn aml yn 'ofynion swyddogaethol' a chânt eu mynegi yn nhermau beth sy'n 'rhesymol', yn 'ddigonol', neu'n 'addas'. Ni fydd yr holl ofynion swyddogaethol yn berthnasol i'ch gwaith adeiladu chi, ond dylid cydymffurfio â'r rhai hynny sydd yn berthnasol fel rhan o'r broses gyffredinol o gydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu.
Mae'r Llywodraeth yn cyhoeddi arweiniad ar ffyrdd o fodloni'r gofynion hyn, ac fe'u gelwir yn Ddogfennau Cymeradwy. Nid oes rhaid dilyn yr arweiniad yn y dogfennau hyn os dymunwch fodloni'r gofynion mewn ffordd arall, ond rhoddir ystyriaeth i hyn pan fydd eich gwasanaeth rheoli adeiladu yn ystyried a ddylid cymeradwyo'ch cynlluniau o waith arfaethedig, neu waith sydd ar y gweill, ai peidio.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.
Mae nifer o gategorïau o adeiladau newydd neu estyniadau ar gyfer adeiladau presennol nad oes angen cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu arnynt - cyn belled ag y bodlonir meini prawf penodol ar faint, y gwaith adeiladu a'r lleoliad mewn perthynas â'r ffiniau. Mae'r canlynol yn enghreifftiau o adeiladau ac estyniadau o'r fath. Cofiwch y gall bod angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer.