Er mwyn eich helpu i gydymffurfio â'r rheoliadau, mae'n ofynnol eich bod naill ai'n defnyddio gwasanaeth rheoli adeiladu eich awdurdod lleol neu wasanaeth rheoli adeiladu a ddarperir gan arolygydd cymeradwy yn y sector preifat. Codir tâl am y ddau wasanaeth.
Gallwch gyflwyno cais cynlluniau llawn neu roi hysbysiad adeiladu i wasanaeth rheoli adeiladu eich awdurdod lleol, yn dibynnu ar y raddfa a'r math o waith y dymunwch ei wneud.
Bydd angen i hwn gynnwys cynlluniau a gwybodaeth arall yn dangos yr holl fanylion adeiladu, a hynny ymhell cyn i'r gwaith ddechrau ar y safle os oes modd. Bydd eich awdurdod lleol yn gwirio'ch cynlluniau ac yn ymgynghori ag unrhyw awdurdodau priodol (e.e. tân a charthffosiaeth). Dylent orffen drwy roi penderfyniad i chi o fewn pum wythnos neu, os cytunwch, hyd at ddau fis ar ôl y dyddiad cyflwyno.
Os bydd eich cynlluniau'n cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu byddwch yn derbyn neges yn datgan iddynt gael eu cymeradwyo. Os na fydd eich awdurdod lleol yn fodlon, mae'n bosib y gofynnir i chi wneud addasiadau neu roi mwy o fanylion. Fel arall, gellir rhoi cymeradwyaeth amodol i chi. Bydd hyn naill ai'n nodi pa addasiadau y dylid eu gwneud i'r cynlluniau, neu'n nodi unrhyw gynlluniau pellach y dylid eu cyflwyno i'ch awdurdod.
Bydd hysbysiad cymeradwy sy'n cyflwyno cynlluniau llawn yn ddilys am hyd at dair blynedd ar ôl cyflwyno'r cynlluniau. Ar ôl hyn, gall yr awdurdod lleol anfon hysbysiad atoch yn datgan nad yw'r gymeradwyaeth yn ddilys os nad yw'r gwaith adeiladu eisoes wedi dechrau. Os gwrthodir eich cynlluniau, eglurir pam yn yr hysbysiad. Mae'n bosib y bydd angen i unrhyw waith adeiladu a gymeradwywyd cyn 6 Ebrill 2006 ond a ddechreuir ar ôl 1 Ebrill 2007 fodloni'r gofynion arbed ynni a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2006 ac nid unrhyw rai cynharach a ddefnyddiwyd wrth roi'r gymeradwyaeth.
Dim ond os ydych wedi gofyn i'ch awdurdod lleol osod amodau neu wedi rhoi caniatâd iddynt y cânt wneud hynny. Dylid gwneud cais neu ganiatâd ar ffurf ysgrifenedig, a gall fod yn rhan o'r cais gwreiddiol am gymeradwyaeth.
Bydd gwasanaeth rheoli adeiladu eich awdurdod lleol yn arolygu'ch gwaith yn ystod camau penodol drwy gydol y prosiect. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at y tudalennau rheoli adeiladu ar wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Nid yw'r drefn hon yn cynnwys pasio neu wrthod cynlluniau. Mae'n osgoi paratoi 'cynlluniau llawn' manwl, a'i bwriad yw galluogi rhai mathau o waith adeiladu i fynd rhagddynt yn gyflym; er, efallai ei bod yn fwy addas ar gyfer gwaith bach.
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno'ch hysbysiad adeiladu ac wedi rhoi gwybod i'ch awdurdod lleol eich bod yn bwriadu dechrau gweithio, bydd y gwaith yn cael ei arolygu fel yr aiff rhagddo. Os na fydd y gwaith yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu, bydd yr awdurdod yn eich hysbysu. Cyn i'r gwaith ddechrau, neu thra bo'r gwaith yn mynd rhagddo, os bydd ar eich awdurdod lleol angen rhagor o wybodaeth megis cynlluniau neu gyfrifiadau dylunio strwythurol, dylech ddarparu'r manylion hynny. Bydd 'hysbysiad adeiladu' yn ddilys am dair blynedd o ddyddiad rhoi'r hysbysiad i'r awdurdod lleol. Ar ôl hyn, bydd yn darfod yn awtomatig os na fydd y gwaith adeiladu wedi dechrau. Un eithriad i hyn yw'r angen i fodloni'r gofynion arbed ynni (gweler uchod dan 'cais cynlluniau llawn').
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Yn gyffredinol, dan y Rheoliadau Adeiladu, nid oes rheidrwydd arnoch i ymgynghori â'ch cymdogion ynghylch gwaith adeiladu arfaethedig, ond doeth fyddai gwneud hynny. Dylech ofalu nad ydy'ch gwaith adeiladu yn ymyrryd â'u heiddo hwy gan y gallai hyn arwain at ddrwgdeimlad ac achos sifil o bosib ar gyfer addasu'r gwaith neu ei ddad-wneud.
Er nad oes rheidrwydd arnoch i ymgynghori â'ch cymdogion dan y Rheoliadau Adeiladu, dylech rybuddio perchnogion cyfagos os yw'ch prosiect yn dod o dan amodau Deddf Waliau Cydrannol ayb 1996. Fe'ch cynghorir i drafod eich cynnig gyda'r perchnogion cyfagos cyn mynd ati i baratoi hysbysiad.