Os ydych chi'n bwriadu gosod boeler neu gael un newydd yn lle'r hen un, dylech ystyried prynu boeler cyddwyso. Mae hyn yn un o ofynion Rhan L1 y Rheoliadau Adeiladu sy'n ymwneud ag arbed tanwydd a phŵer.
Rhaid i unrhyw foeler nwy a osodir ar ôl 1 Ebrill 2005, a boeleri olew a osodir ar ôl 1 Ebrill 2007, fod yn foeleri cyddwyso, boed y rheiny'n cael eu gosod yn lle hen foeleri ynteu'n rhai o'r newydd.
Mae boeleri cyddwyso'n fwy effeithlon na boeleri cyffredin oherwydd:
Dim ond os penderfynwch chi newid eich boeler dwr poeth gwres canolog presennol neu os penderfynwch chi newid i un o'r mathau hyn o foeleri o ffurf arall o system wresogi y bydd y safonau newydd yn berthnasol.
Wrth i symiau cynyddol o garbon deuocsid gael eu gollwng i'r atmosffer, mae'r hinsawdd wedi newid. Mae oddeutu 16 y cant o'r carbon deuocsid a gynhyrchir gan y DU yn dod o'r boeleri nwy ac olew a ddefnyddir gennym i gynhesu ein cartrefi.
Efallai byddant yn ddrutach i’w gosod, ond:
Nac oes. Dylech osod boeler cyddwyso os yw'n rhesymol gwneud hynny, ond mae'r gyfraith yn cydnabod bod boeleri eraill yn dderbyniol petai'n rhy anodd i chi osod boeler cyddwyso yn eich cartref. Bydd y gweithiwr sy'n gosod eich boeler yn dweud wrthych a yw'r amgylchiadau'n rhy anodd ai peidio.
Ar gyfer boeleri nwy, rhaid i'r gosodwyr fod wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Gosodwyr Nwy Cofrestredig (CORGI) er mwyn sicrhau diogelwch ac er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith, a dylen nhw hefyd fod yn gallu gosod boeleri cyddwyso.
Ar gyfer boeleri nwy, gallwch gyflogi un o osodwyr cofrestredig y Gymdeithas Dechnegol Gosodiadau Nwy, neu osodwr arall ag enw da sy'n gallu gosod boeleri cyddwyso. Mae aelodau OFTEC yn gymwys i dystio bod eu gwaith yn bodloni'r rheoliadau adeiladu. Os byddwch yn cyflogi gosodwr sydd heb ei gofrestru gydag OFTEC, rhaid i chi roi gwybod i adran rheoli adeiladu eich awdurdod lleol cyn dechrau'r gwaith gosod.
Ym mhob achos, cofiwch sicrhau fod gan y gosodwr gymwysterau diweddar ym maes effeithlonrwydd ynni. Gall CORGI neu OFTEC gadarnhau hyn. Os mai gosod boeler nwy ydych chi, dewis arall fyddai gofyn i'ch gosodwr a oes ganddyn nhw Dystysgrif Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Gwres Domestig, neu gymhwyster cyfatebol.