Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut bydd y Rheoliadau Adeiladu'n cael eu gorfodi a'ch hawl i apelio

Gellir mynd yn groes i'r Rheoliadau Adeiladu trwy beidio â dilyn y gweithdrefnau rheoli adeiladu a osodwyd ar gyfer delio â'ch gwaith adeiladu. Gellir mynd yn groes iddynt hefyd trwy wneud gwaith adeiladu nad yw'n cydymffurfio â gofynion technegol y Rheoliadau Adeiladu. Daw hyn i'r amlwg yn ystod yr archwiliadau a wneir gan y gwasanaeth rheoli adeiladu.

Sut caiff y Rheoliadau Adeiladu eu gorfodi?

Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd gyffredinol i orfodi'r Rheoliadau Adeiladu yn ei ardal, a bydd yn gwneud hyn mewn modd anffurfiol lle bo'n bosib.

Pan mai arolygydd cymeradwy fydd yn darparu'r gwasanaeth rheoli adeiladu, ef fydd yn gyfrifol am sicrhau y cydymffurfir â'r Rheoliadau. Byddant yn gwneud hyn trwy eich cynghori. Fodd bynnag, nid oes ganddynt bwerau gorfodi. Os digwydd iddynt gredu nad ydy'ch gwaith adeiladu'n cydymffurfio â'r Rheoliadau, ni fyddant yn rhoi tystysgrif derfynol i chi, a byddant yn canslo'r hysbysiad gwreiddiol trwy roi gwybod i'ch awdurdod lleol. Os na fydd arolygydd cymeradwy arall yn cytuno i wneud y gwaith, bydd eich awdurdod lleol yn cynnal y gwasanaeth rheoli adeiladu yn awtomatig. O hyn allan bydd gan eich awdurdod lleol bwerau gorfodi hefyd, sy'n golygu y gallant eich gorfodi i addasu'ch gwaith os byddant yn ystyried hynny'n angenrheidiol.

Os yw'r sawl sy'n gwneud y gwaith adeiladu'n mynd yn groes i'r Rheoliadau Adeiladu, gall yr awdurdod lleol neu rywun arall benderfynu mynd â nhw gerbron llys ynadon ble gellir eu dirwyo hyd at £5000, a hyd at £50 am bob diwrnod y byddant yn parhau i fynd yn groes i'r Rheoliadau yn dilyn yr euogfarn.

Fel arfer, cymerir y camau hyn (dan adran 35 y Ddeddf Adeiladu 1984) yn erbyn yr adeiladwr neu'r prif gontractwr, ond dylid gweithredu o fewn chwe mis i'r trosedd. Fel arall, neu ar ben hynny, gall yr awdurdod lleol (dan adran 36 y Ddeddf) gyflwyno hysbysiad gorfodi i'r perchennog yn gofyn iddynt addasu neu ddad-wneud y gwaith sy'n mynd yn groes i'r rheoliadau. Os na fydd y perchennog yn cydymffurfio â'r hysbysiad yna bydd gan yr awdurdod lleol y puer i wneud y gwaith eu hunain ac adennill y gost gan y perchennog.

Nid ellir cyflwyno hysbysiad gorfodi adran 36 i chi fwy na 12 mis ar ôl dyddiad cwblhau'r gwaith adeiladu, ond nid yw hyn yn effeithio ar hawl awdurdod lleol (neu unrhyw un arall) i wneud cais i'r llys am waharddeb at yr un diben. Yn ogystal, all awdurdod lleol ddim cymryd camau gorfodi yn eich erbyn dan adrannau 35 a 36 os yw'r gwaith a wnaethpwyd yn cydymffurfio â'r cynlluniau gwreiddiol a bod yr awdurdod wedi derbyn y rheiny neu heb eu gwrthod o fewn y cyfnod statudol o bum wythnos (neu ddau fis gyda'ch caniatâd) ar ôl cyflwyno'r cynlluniau.

Beth fydd yn digwydd os byddwch chi'n anghytuno â hysbysiad gorfodi'r awdurdod lleol?

Fel arfer, bydd hysbysiad gorfodi'r awdurdod lleol yn rhoi 28 diwrnod i chi gywiro'r gwaith adeiladu.

Os ydych am wrthwynebu'r hysbysiad ar y sail eich bod yn credu i'ch gwaith adeiladu gydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu, gallwch roi gwybod i'ch awdurdod lleol eich bod yn dymuno comisiynu adroddiad ysgrifenedig gan berson sydd â chymwysterau priodol ynghylch a yw'r gwaith yn cydymffurfio, gyda'r bwriad o berswadio'r awdurdod i dynnu'r hysbysiad yn ôl. Os felly, caiff y 28 diwrnod a roddwyd i gywiro'r gwaith adeiladu ei ymestyn i 70 diwrnod.

Fel arall, gallwch apelio yn erbyn yr hysbysiad mewn llys ynadon gan brofi bod eich gwaith adeiladu'n cydymffurfio. Gellir defnyddio hyn yn lle'r uchod, neu os byddwch yn aflwyddiannus wrth ddilyn y gweithdrefnau hynny. Dylech gyflwyno'ch apêl o fewn 28 diwrnod o dderbyn yr hysbysiad neu o fewn 70 diwrnod os gwnaethoch ddefnyddio'r opsiwn uchod yn gyntaf.

Os byddwch yn llwyddiannus gyda'r naill neu'r llall, mae'n bosib y bydd rhaid i'ch awdurdod lleol dalu'ch costau.

Ar y llaw arall, os credwch nad oes disgwyl i'ch gwaith chi gydymffurfio ag un neu fwy o ofynion y Rheoliadau Adeiladu am eu bod yn rhy feichus neu'n amherthnasol, cewch wneud cais i'ch awdurdod lleol lacio neu ollwng y gofyn(ion) dan sylw er mwyn gallu ystyried bod eich gwaith adeiladu gorffenedig yn cydymffurfio â'r rheoliadau.

Dylid gwneud eich cais o fewn 28 diwrnod o'r diwrnod y derbynnir yr hysbysiad gorfodi gan eich awdurdod. Os byddant yn gwrthod eich cais mae gennych hawl i apelio i'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (yn Lloegr) neu i Lywodraeth Cynulliad Cymru (yng Nghymru) yn erbyn y gwrthodiad, cyn belled ag y byddwch yn gwneud hynny o fewn mis i'r penderfyniad hwnnw.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU