Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gosod nwy yn y cartref ac iechyd a diogelwch

Fel perchennog cartref, tenant, landlord neu osodwr nwy, mae gennych hawliau a chyfrifoldebau mewn perthynas â diogelwch nwy.

Landlordiaid

Fel landlord, rydych yn gyfrifol am ddiogelwch eich tenantiaid. Mae Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio) 1998 yn delio'n benodol gyda dyletswyddau landlordiaid i sicrhau bod cyfarpar, gosodion a ffliwiau nwy a ddarperir ar gyfer defnydd tenantiaid yn ddiogel. Dylai landlordiaid:

  • sicrhau bod gwaith gosod pibellau, cyfarpar a ffliwiau a ddarperir ar gyfer tenantiaid yn cael eu cadw mewn cyflwr diogel
  • sicrhau bod archwiliad diogelwch blynyddol yn cael ei wneud ar bob darn o offer a/neu ffliw yr ydych yn eu darparu ar gyfer y tenant
  • sicrhau bod yr holl archwiliadau cynnal a chadw a diogelwch blynyddol yn cael eu gwneud gan osodwr sydd wedi'i gofrestru gyda CORGI
  • cadw cofnod o bob archwiliad diogelwch am 2 flynedd
  • rhoi copi o'r archwiliad diogelwch i bob tenant o fewn 28 diwrnod i gwblhau'r archwiliad ac i unrhyw denant newydd cyn iddynt symud i mewn
  • sicrhau bod yr holl gyfarpar nwy (gan gynnwys unrhyw gyfarpar a adawyd gan denant blaenorol) yn ddiogel neu'n cael ei symud o'r eiddo cyn ailosod
  • os defnyddir asiant rheoli i helpu'r landlord gyflawni'i ddyletswyddau, sicrhewch fod y contract rheoli'n nodi'n glir pwy sydd i wneud y trefniadau ar gyfer y gwaith cynnal a chadw a'r archwiliadau diogelwch a phwy sydd i gadw cofnodion. Fodd bynnag, gan y landlord y mae'r cyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau y cyflawnir yr holl ddyletswyddau, ni waeth a gyflogir asiant rheoli neu beidio.
  • sicrhau bod unrhyw un sy'n gwneud gwaith ar gyfarpar/gosodion nwy a/neu ffliwiau a ddarperir ar gyfer y tenantiaid yn berchen ar y cymhwysedd gofynnol ac mai dim ond gosodwyr sydd wedi cofrestru gyda CORGI a ddefnyddir

Tenantiaid

Dylech roi mynediad i'ch landlord i'r eiddo er mwyn gallu gwneud archwiliadau diogelwch neu waith cynnal a chadw ar gyfarpar a/neu ffliwiau a ddarparant ar eich cyfer.

Dylai cyfarpar nwy a/neu ffliwiau sy'n eiddo i chi gael eu cynnal a'u cadw'n rheolaidd a dylid cynnal archwiliad diogelwch o leiaf unwaith bob 12 mis gan osodwr sydd wedi cofrestru gyda CORGI.

Os oes unrhyw amheuaeth ynghylch diogelwch cyfarpar nwy, dylid ei ddiffodd ac ni ddylid cyffwrdd ag ef tan iddo gael ei archwilio gan osodwr cymwys, a'i drwsio yn ôl yr angen.

Perchnogion Cartref

Fel perchennog eiddo, mae gennych gyfrifoldeb i chi eich hun ac i'r rhai sy'n byw yn eich cartref i sicrhau bod y gosodion a'r cyfarpar nwy yn ddiogel. Sicrhewch fod yr holl gyfarpar nwy a/neu ffliwiau'n cael eu cynnal a'u chadw'n rheolaidd a bod archwiliad diogelwch yn cael ei gynnal yn flynyddol neu unrhyw adeg arall os oes amheuaeth am ddiogelwch, a hynny gan osodwr sydd wedi cofrestru gyda CORGI.

Iechyd a Diogelwch

Bob blwyddyn, mae ryw 30 o bobl yn marw o wenwyn carbon monocsid (CO) a achoswyd gan gyfarpar a ffliwiau nwy nad oeddynt wedi'u gosod yn iawn neu heb eu cynnal a'u cadw'n iawn. Bydd llawer mwy yn dioddef iechyd gwael. Pan nad yw nwy yn llosgi'n iawn, fel gyda thanwyddau eraill megis glo, coed neu olew, mae gormod o CO yn cael ei gynhyrchu sy'n wenwynig. Allwch ddim mo'i weld, ei flasu na'i ogleuo, ond gall CO ladd yn ddirybudd mewn mater o oriau. Mae gwefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cynnwys gwybodaeth hanfodol ar gyfer defnyddwyr nwy er mwyn iddynt reoli offer/cyfarpar nwy yn ddiogel ac yn dweud wrthych beth i'w wneud mewn argyfwng. Mae hefyd yn darparu cyngor ar gyfer landlordiaid, ac asiantau gosod ynghylch sut i gydymffurfio â'r gyfraith.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU