Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Llogi sgip a'i ddefnyddio'n ddiogel

Pan fyddwch chi'n llogi sgip, bydd angen i chi gael hawliad sgip cyn y gallwch ei roi ar briffordd gyhoeddus (sy'n cynnwys palmentydd, ffyrdd a phriffyrdd). Mae angen i chi sicrhau bod yr hawliad yn ddilys ar y pryd ac yn cynnwys y mathau o wastraff y byddwch chi'n cael gwared arnynt.

Gwneud cais am hawliad sgip

Mae'r rhan fwyaf o gynghorau yn gadael i'r cwmni llogi sgip wneud cais am yr hawliad, ond mae rhai cynghorau'n gofyn i'r person sy'n llogi'r sgip gael yr hawliad. Gall eich cyngor roi rhagor o wybodaeth i chi am yr hawliad a sut mae cael un.

Mae hawliadau sgip yn gyffredinol yn ddilys am rhwng un diwrnod a phedair wythnos, ond gellir eu hadnewyddu. Rhaid i'r hawliad gael ei gyhoeddi cyn i'r sgip gael ei roi ar y briffordd gyhoeddus.

Os nad oes gennych hawliad mewn grym, gall y sgip gael ei dynnu oddi yno a'i roi dan glo (a gellir gwneud hyn heb rybudd ar brydiau), a allai achosi oedi gyda'r gwaith.

Dylech holi'ch cyngor ble cewch roi'r sgip oherwydd gall amrywio o gyngor i gyngor. Os gosodir eich sgip i gyd ar dir preifat, mae'n debyg na fydd angen hawliad sgip arnoch.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth am sut mae gwneud cais am drwydded neu hawliad sgip.

Cludwyr gwastraff a gymeradwyir

Byddwch hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod eich gwastraff yn cael ei waredu gan gludwyr gwastraff a gymeradwyir.

Felly mae angen i chi sicrhau bod gan y cwmni llogi sgip drwydded cludwyr gwastraff ddilys a bod y cwmni'n gludwyr gwastraff a gymeradwyir. Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob cwmni sy'n cludo ac yn cael gwared ar wastraff gael trwydded cludwyr gwastraff.

Chwilio am gludwyr gwastraff a gymeradwyir

Gallwch chwilio am gludwyr gwastraff a gymeradwyir ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Gosod y sgip a sicrhau bod eich sgip yn ddiogel

Mae'n bwysig eich bod yn gosod sgipiau ar y ffordd yn hytrach nag ar y palmant, oni bai bod eich hawliad yn caniatáu i'r sgip gael ei osod ar y palmant

  • peidiwch â rhoi sgipiau ar y briffordd mewn mannau lle gallant fod yn niwsans neu'n beryg i ddefnyddwyr y ffordd

Mae diogelwch yn fater pwysig y dylech ei ystyried wrth logi sgip.

Mesurau diogelwch

Dyma'r mesurau diogelwch i'w dilyn:

  • defnyddiwch gonau a goleuadau oren sy'n fflachio o amgylch y sgip pan fydd hi'n dywyll a/neu yn anodd gweld oherwydd niwl, tarth ac amgylchiadau eraill
  • rhowch farcwyr sy'n adlewyrchu ar ddau ben y sgip
  • osgowch roi'r sgip ar y palmant, dros dyllau draeniau, dros draeniau, gratiau neu unrhyw fannau eraill y gall fod angen i'r prif wasanaethau fynd atynt

Gwnewch yn siŵr:

  • nad yw'r cynnwys yn gwthio allan o ochrau'r sgip: mae hyn yn beryglus i ddefnyddwyr y ffordd ac i gerddwyr
  • nad yw'r sgip yn orlawn a bod ei gynnwys yn sefydlog - rhowch rwyd drosto neu wlychu'r deunydd gwastraff fel nad ydynt yn chwythu allan
  • nad yw'r sgip yn cynnwys deunyddiau sy'n debygol o achosi tân neu ffrwydrad ac na fydd yn rhyddhau mygdarth gwenwynol nac yn creu perygl i iechyd nac i'r amgylchedd

Sgipiau caeedig

Ystyriwch logi sgip caeedig. Gellir cloi sgipiau caeedig er mwyn atal pobl nad oes ganddynt ganiatâd rhag mynd iddo. Dyma'r math mwyaf diogel o sgip hefyd gan eu bod yn atal y cynnwys rhag disgyn allan neu fynd dros yr ochr, ac maen nhw'n atal llwch rhag chwythu i'r awyr wrth i bethau gael eu llwytho i'r sgip.

Gwnewch yn siŵr bod gennych unrhyw ganiatâd cynllunio angenrheidiol a'ch bod yn dilyn y rheoliadau adeiladu ar gyfer eich prosiect. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r adran caniatâd cynllunio a rheoliadau adeiladu.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU