Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Safonau tai mewn llety ar rent

Os ydych yn rhentu'ch cartref, y landlord fel arfer sy'n gyfrifol am waith atgyweirio mawr. Mae hyn yn cynnwys gwaith atgyweirio ar yr adeiladwaith a'r tu allan i'r eiddo, offer gwresogi a dŵr poeth, basnau, sinciau, baddonau ac offer glanweithiol eraill.

Safonau yn eich cartref

Ni ddylai fod unrhyw beryglon difrifol i iechyd a diogelwch mewn eiddo, sy'n golygu y dylai eich landlord sicrhau bod problemau'n cael eu datrys cyn iddynt arwain at ddamweiniau neu iechyd gwael.

Gall peryglon godi yn y cartref oherwydd ei ddyluniad, traul neu ddiffyg gwaith cynnal a chadw. Y peryglon mwyaf cyffredin yw:

  • gwresogi ac insiwleiddio annigonol a diffyg atgyweirio
  • dim canllawiau, grisiau serth a goleuadau gwael sy'n gallu achosi i bobl ddisgyn
  • tamprwydd a llwydni
  • problemau gyda hylendid personol a domestig
  • tân

Yn ymarferol, dylai'r landlord sicrhau bod y cartref yn gynnes ac yn ddiogel ar gyfer y gwahanol fathau o bobl sy'n byw ynddo.

Cael help

Os oes problemau yn eich cartref a allai fod yn beryglus, gallwch ofyn i'ch landlord wella'r sefyllfa. Os na fydd eich landlord yn gwneud unrhyw beth i wella'r sefyllfa, gallwch gysylltu â swyddog iechyd yr amgylchedd yn eich cyngor lleol, a all gymryd camau yn erbyn eich landlord.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU