Os ydych wedi derbyn hysbysiad gorfodi, gall y wybodaeth ganlynol eich helpu chi benderfynu a oes sail dros apelio.
Os ydych wedi bwrw ymlaen â gwaith heb gael y caniatâd gofynnol, efallai mai'r unig beth a wnaiff y cyngor yw gofyn ichi wneud cais ôl-weithredol. Mae llawer yn dibynnu ar natur y datblygiad a'i effaith ar gymdogion. Os yw'r cyngor o'r farn fod y datblygiad yn torri rheolau cynllunio, gall gymryd camau gorfodi adferol.
Gellwch gael mwy o wybodaeth am y broses apelio ar y Porth Cynllunio.
Dim ond os bydd popeth arall wedi methu y dylech ystyried cyflwyno apêl. Dylech bob amser geisio cyd-drafod gyda'ch awdurdod cynllunio lleol er mwyn cael canlyniad boddhaol cyn cyflwyno apêl.
Yr Arolygiaeth Gynllunio sy'n delio gyda phob apêl yng Nghymru a Lloegr - mae'n un o asiantaethau gweithredol yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Rhaid i'r Arolygiaeth Gynllunio dderbyn eich apêl wedi'i chwblhau cyn i'r terfyn amser ddod i ben - sef chwe mis yng Nghymru a Lloegr.
Os penderfynwch apelio, dylech roi sylw gofalus i'ch sail dros apelio gan mai hwn fydd sail eich dadl yn erbyn penderfyniad y cyngor.
Os bydd yr Arolygiaeth Gynllunio'n penderfynu nad yw sail eich apêl yn ddigonol, gofynnir i chi ei newid neu mae'n bosibl y bydd eich apêl yn cael ei hannilysu.
Mae pob apêl gorfodi'n cynnwys cais am ganiatâd cynllunio. Disgrifir hyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio fel y 'cais cynllunio tybiedig'.
Rhaid talu ffi fel arfer ar gyfer ystyried y cais hwn, sef ddwywaith y swm a delir am ganiatâd cynllunio arferol. Telir hanner y ffi i'r awdurdod cynllunio lleol a hanner i’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol. Ni chodir ffi am yr apêl ei hun.
Gallwch apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi ar-lein. Mae'r Gwasanaeth Achosion Cynllunio'n system sydd ar gael drwy'r Porth Cynllunio.
Gweithredir y system gan yr Arolygiaeth Gynllunio ac mae defnyddwyr yn gallu cyflwyno, dilyn trywydd a chwilio am fathau arbennig o apeliadau ar-lein.
Gallwch anfon eich apêl at yr Arolygiaeth Gynllunio drwy'r post, ffacs neu â llaw i'r cyfeiriad isod. Dylech gadw'r adroddiad o'r neges ffacs, a rhifau cofnodi'r dosbarthiad neu gofynnwch am dderbynneb gyda'r dyddiad arni os byddwch yn cyflwyno'ch apêl yn bersonol.
The Planning Inspectorate
PO Box 326
BRISTOL, BS99 7XF
Llinell Gymorth: 0117 372 8075
Mae'r amserlen a'r camau canlynol yn berthnasol i bob apêl, pa bynnag drefn a ddefnyddir.
O fewn pythefnos i'r dyddiad cychwyn - bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn anfon holiadur y maent wedi'i lenwi atoch chi a'r Arolygiaeth Gynllunio. Byddant hefyd yn rhoi gwybod i unrhyw rai sydd â diddordeb am yr apêl erbyn yr un dyddiad.
O fewn chwe wythnos i'r dyddiad cychwyn - dylech chi a'r awdurdod cynllunio lleol anfon datganiad o'ch achos at yr Arolygiaeth Gynllunio. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn anfon atoch chi a'r awdurdod cynllunio lleol gopi o beth y mae'r naill a'r llall wedi'i anfon ac unrhyw sylwadau gan bobl â diddordeb (os ydynt wedi'u derbyn mewn pryd).
O fewn naw wythnos i'r dyddiad cychwyn - dylech chi a'r awdurdod cynllunio lleol anfon at yr Arolygiaeth Gynllunio unrhyw sylwadau ar ddatganiad y naill neu'r llall a sylwadau'r bobl â diddordeb.
Mae rhai camau eraill yn berthnasol os yw eich apêl yn cael sylw mewn gwrandawiad neu ymchwiliad.
Gellwch dynnu eich apêl yn ôl unrhyw bryd cyn y gwneir penderfyniad yn ei chylch. Gellwch wneud hyn, er enghraifft, os byddwch chi a'r awdurdod cynllunio wedi dod i gytundeb ac yn gallu datrys eich gwahaniaethau heb apêl.
Gellwch hefyd roi sylwadau ar apêl rhywun arall yn erbyn Hysbysiad Gorfodi. I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'r Porth Cynllunio.