Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Rhoi sylwadau ar apeliadau

Does dim hawl apelio gan drydydd parti yng Nghymru a Lloegr. Fodd bynnag, gall unrhyw un sy'n byw ger safle'r apêl neu sydd â diddordeb yn yr apêl gyflwyno sylwadau ar y broses

Gyda phwy y dylech gysylltu os ydych am roi sylwadau

Yr Arolygiaeth Gynllunio sy'n delio gydag apeliadau, nid yr awdurdod lleol. Os ydych am wneud sylwadau ar apêl, bydd angen i chi eu cyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio.

Bydd y ffordd y byddwch yn rhoi eich barn ar apêl gynllunio yn dibynnu ar y ffordd y mae'r Arolygiaeth Gynllunio'n delio gyda'r apêl:

  •  trefn ysgrifenedig
  •  trefn gwrandawiad
  •  trefn ymchwiliad

Os penderfynir ar yr apêl drwy'r drefn ysgrifenedig, gallwch ysgrifennu at yr Arolygiaeth Gynllunio gyda'ch safbwyntiau.

Os bydd gwrandawiad neu ymchwiliad yn cael ei gynnal, gallwch ysgrifennu at yr Arolygiaeth o hyd ond efallai y byddwch am fynd i'r gwrandawiad neu'r ymchwiliad a chymryd rhan. Bydd angen i chi wneud cais am gael cyfrannu at y broses. Bydd angen i chi hefyd anfon cais at yr Arolygiaeth Gynllunio os bydd angen cydnabyddiaeth arnoch eu bod wedi derbyn eich sylwadau neu gopi o lythyr penderfyniad yr apêl.

Bydd yr awdurdod lleol yn anfon copïau o unrhyw lythyrau y byddant wedi'u derbyn am y safle i'r Arolygiaeth Gynllunio.

Os nad ydych wedi ysgrifennu ynghylch y mater o'r blaen, neu os oes gennych rywbeth newydd i'w ddweud, gallwch ysgrifennu at yr Arolygiaeth Gynllunio. Ond mae terfynau amser caeth ar gyfer anfon eich sylwadau atynt - ar hyn o bryd chwe mis o ddyddiad y llythyr penderfyniad.

Rhoi sylwadau ar apêl gynllunio

Bydd apeliadau cynllunio'n cael eu gwneud am nifer o resymau, ond gwneir y rhan fwyaf oherwydd bod awdurdod lleol wedi gwrthod rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygiad.

Os oedd gennych ddiddordeb mewn cais, pa un a oeddech o'i blaid neu yn ei erbyn, mae'n debyg y bydd gennych ddiddordeb yng nghanlyniad yr apêl. Efallai eich bod yn byw gerllaw'r ardal neu yn aelod o gymdeithas preswylwyr neu grup gyda diddordeb arbennig.

Bydd y math o gyhoeddusrwydd y bydd yr apêl yn ei gael yn dibynnu ar sut y penderfynir arni - trwy gyfnewid sylwadau ysgrifenedig, trwy wrandawiad neu ymchwiliad.

Os oeddech wedi ysgrifennu at yr awdurdod cynllunio lleol am y cais cynllunio yr oedd yn ei ystyried, dylai'r awdurdod ysgrifennu atoch i ddweud wrthych am yr apêl o fewn pythefnos iddi gael ei derbyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Os bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal i benderfynu ar yr apêl, dylai'r awdurdod cynllunio lleol hefyd roi gwybod i chi pryd ac ymhle y bydd yn cael ei gynnal. Gallant hefyd gyhoeddi manylion y gwrandawiad mewn papur newydd lleol os ydynt o'r farn bod angen gwneud hynny.

I gael rhagor o wybodaeth am roi sylwadau ar apêl, ymwelwch â'r Porth Cynllunio.

Rhoi sylwadau ar apêl orfodi

Os yw eich awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad gorfodi a bod apêl ddilys yn ei erbyn, bydd yn ysgrifennu at bawb sy'n byw mewn eiddo cyfagos ac eraill yr effeithir arnynt yn eu tyb hwy, i ddweud wrthynt am yr apêl.

Bydd yr awdurdod lleol hefyd yn ysgrifennu at unrhyw un sydd eisoes wedi ysgrifennu atynt ynghylch y safle. Os ymdrinnir â'r apêl mewn ymchwiliad, bydd yr awdurdod cynllunio lleol fel arfer yn hysbysebu manylion yr ymchwiliad yn y wasg leol.

Rhaid i'r apelydd arddangos manylion yr ymchwiliad, megis yr amser a'r lleoliad, ar safle'r datblygiad arfaethedig bythefnos cyn yr ymchwiliad.

Dyma'r gofynion cyhoeddusrwydd sylfaenol. Efallai y bydd eich awdurdod cynllunio lleol yn rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i apeliadau.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r Porth Cynllunio.

Rhoi sylwadau ar apêl ar-lein

Mae gwasanaeth ar-lein y Gyfarwyddiaeth, y Gwasanaeth Achosion Cynllunio, yn gadael i chi chwilio a rhoi sylwadau ar apêl yn electronig. Mae'r gwasanaeth ar gael trwy'r Porth Cynllunio.

I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'r Porth Cynllunio.

Yn yr adran hon...

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU