Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Rhoi gwybod am dorri amodau cynllunio

Os ydych yn credu bod datblygiad wedi torri rheolaeth gynllunio, gallwch gysylltu â'ch awdurdod cynllunio lleol.

Beth yw torri amodau cynllunio?

Digwydd hyn fel arfer:

  • Pan fydd datblygiad y mae angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer yn digwydd heb gael y caniatâd hwnnw - naill ai oherwydd i'r cais cynllunio gael ei wrthod neu oherwydd na wnaethpwyd cais o gwbl amdano
  • Pan fydd datblygiad sydd wedi cael caniatâd gydag amodau yn torri un neu fwy o'r amodau hynny

Nid yw torri amodau cynllunio ei hun yn anghyfreithlon a gall y cyngor ganiatáu ôl-gais lle na wnaethpwyd cais am ganiatâd cynllunio.

Fodd bynnag, os torrir rheolaeth gynllunio yng nghyswllt datblygiad a wrthodwyd yn flaenorol (neu os bydd yr ôl-gais yn methu), gall y cyngor gyflwyno hysbysiad gorfodi.

Wrth ystyried unrhyw gamau gorfodi, y prif fater i'r awdurdod cynllunio lleol ei ystyried yw a fyddai torri rheolaeth gynllunio'n effeithio'n annerbyniol ar amwynder cyhoeddus. Mae'n anghyfreithlon peidio ag ufuddhau i hysbysiad gorfodi, oni wneir apêl lwyddiannus yn ei erbyn.

Sut fydd eich cyngor yn delio gyda thorri rheolaeth gynllunio

Y prif fater i'r awdurdod cynllunio lleol wrth ystyried camau gorfodi yw a fyddai torri rheolaeth gynllunio'n effeithio'n annerbyniol ar amwynder cyhoeddus neu fod y defnydd presennol o'r tir a'r adeiladau'n haeddu cael ei ddiogelu er budd y cyhoedd.

Dylai'r camau gorfodi bob amser fod yn gymesur â'r rheolaeth gynllunio berthnasol a dorrwyd. Er enghraifft, fel arfer nid yw'n briodol cymryd camau gorfodi ffurfiol pan dorrir mân reolaethau cynllunio neu reolaethau technegol nad ydynt yn peri niwed i amwynder yn ardal y safle.

Rhoi gwybod am dorri amodau cynllunio

Allweddumynediad llywodraeth y DU