Os hoffech gymryd rhan yn ein harolwg wefan ymwelydd, a wnewch chi ymweld â'r safle ac wedyn dod yn �l a dewis y ddolen hon i gymryd rhan yn yr arolwg.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ardaloedd cadwraeth a chyngor

Gellir diffinio ardaloedd cadwraeth fel "ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, ac y mae'n ddymunol gwarchod neu wella'u cymeriad neu eu golwg". Gallwch wneud cais am ganiatâd cynllunio i addasu adeilad mewn ardal gadwraeth isod.

Ardaloedd o bwys diwylliannol neu hanesyddol

Rhaid diogelu ardaloedd sy'n cynnwys enghreifftiau pwysig o'n hanes cymdeithasol, diwylliannol ac aesthetig rhag newid diofal neu ddifeddwl. Bydd yr ardaloedd hyn yn aml yn cynnwys"Adeiladau Rhestredig".

Fodd bynnag, nid yw bob amser yn ddigon i ni warchod yr adeiladau hyn ar eu pen eu hunain. Mae'r cyffiniau a'r amgylchedd cyffredinol yn aml yr un mor bwysig a bwriad ardaloedd cadwraeth yw gwarchod yr amgylchedd hwnnw. Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau nad yw cymeriad yr ardaloedd hyn yn dirywio yn ystod ein hoes ni.

Byw mewn ardal gadwraeth

Mae dynodi ardal yn ardal gadwraeth yn dangos bod gan gyngor ymrwymiad cadarnhaol i'r ardaloedd hynny ac mai ei fwriad yw gwarchod a gwella ansawdd yr amgylchedd. Fodd bynnag, nid amgueddfeydd yn yr awyr agored 'mo ardaloedd cadwraeth. Rhaid gadael iddynt newid dros amser er mwyn iddynt barhau'n fywiog a ffynnu. O ganlyniad, mae' r pwyslais ar arwain a rheoli'r datblygu yn hytrach na'i atal. Mae'n bwysig i bob datblygiad newydd fod yn gydnaws â nodweddion pensaernïol ac aesthetig arbennig yr ardal, yn enwedig o ran eu graddfa, eu dyluniad, y deunyddiau a ddefnyddir a'r lle rhwng adeiladau.

Mae gan eich cyngor bwerau statudol i reoli newidiadau mewn ardaloedd cadwraeth ac fe grynhoir y rhain fel a ganlyn:

Dymchwel Adeiladau

Rhaid cael caniatâd ardal gadwraeth er mwyn dymchwel rhan neu'r cyfan o'r rhan fwyaf o adeiladau a strwythurau, gan gynnwys waliau a thai allan. Os ystyrir dymchwel, yna dylid ceisio barn y cyngor.

Coed

Os ydych chi'n dymuno torri, tocio neu ddiwreiddio coed mewn ardal gadwraeth, rhaid i chi roi chwe wythnos o rybudd ysgrifenedig i'r cyngor. Mae'n drosedd gwneud y gwaith y fewn y cyfnod hwnnw heb ganiatâd eich cyngor.

Soseri lloeren

Rhaid cael caniatâd eich cyngor cyn gosod soser lloeren ar simnai neu ar lethr y to neu ar y wal sy'n wynebu'r ffordd.

Dyluniad datblygiad newydd

Mae gan eich cyngor y pŵer i fynnu safon dylunio uchel iawn sy'n gydnaws â'r amgylchedd sydd yno eisoes. Rhaid i'r datblygiad newydd gyfrannu'n adeiladol at gymeriad yr ardal. Felly, gall eich cyngor fynnu gwybodaeth ychwanegol i gefnogi unrhyw gais cynllunio sy'n dangos pa fath o berthynas fydd rhwng y cynnig a'r ardal gadwraeth. Gall hyn olygu cyflwyno cynlluniau'n cynnwys yr adeiladau cyfagos, manylion llawn y cynnig ac enghreifftiau o ddeunyddiau a lliwiau. Fel arfer, dim ond cais cynllunio manwl llawn a ystyrir, a dylid cyflwyno datganiad dylunio gydag ef.

Bydd eich cyngor yn hysbysebu pob cais cynllunio sy'n effeithio ar gymeriad yr ardaloedd cadwraeth ar y safle ac yn y papur lleol.

Newid to ac arwyneb adeiladau - rhaid cael caniatâd eich cyngor cyn newid proffil y to, er enghraifft drwy osod ffenestr dormer, neu i roi deunydd gwahanol ar wyneb yr adeilad, megis carreg ffug.

Gwneud cais i gyflawni gwaith adeiladu ar eiddo mewn ardal gadwraeth

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Llwyddiant yr ardaloedd cadwraeth

Bydd llwyddiant ardaloedd cadwraeth yn y pen draw yn dibynnu ar faint o ofal y bydd perchnogion unigol yn ei gymryd wrth gynnal a chadw ac atgyweirio'u heiddo ac wrth wneud unrhyw newidiadau neu estyniadau.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU