Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Newidiadau i reoliadau cynllunio i berchnogion tai

O fis Hydref 2008 ymlaen ni fydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o berchnogion tai gael caniatâd cynllunio pan fyddant yn ehangu eu tai presennol. Yn dilyn newidiadau i reoliadau cynllunio, mae hefyd yn haws ymgymryd â phrosiectau adeiladu cyffredin eraill - fel gosod paneli solar neu drosi garej.

Sut y bydd y newidiadau o fudd i chi?

Bydd y newidiadau'n gadael i chi wneud rhai mathau o waith adeiladu heb i chi orfod talu hyd at £1000 am ganiatâd cynllunio.

Os ydych chi'n berchennog ar dŷ, a bod y prosiect adeiladu yr ydych am ymgymryd ag ef yn bodloni amodau penodol, gallech arbed amser ac arian.

Beth yw'r newidiadau i 'hawliau datblygu a ganiateir'?

Mân newidiadau i'ch cartref yw hawliau datblygu a ganiateir - gallai'r rhain gynnwys gosod blwch larwm, er enghraifft. Nid oes angen i chi gael caniatâd cynllunio i'w gwneud. Mae'r hawliau hyn wedi cael eu gwneud yn gliriach ac wedi cael eu hymestyn i gynnwys mwy o brosiectau adeiladu.

Estyniadau

Does dim angen caniatâd cynllunio arnoch i godi estyniad (neu i adeiladu ystafell haul) cyn belled â'i fod yn bodloni rhai amodau. I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y dolenni isod.

Trawsnewid atig

Does dim angen caniatâd cynllunio arnoch i drawsnewid atig cyn belled â'i fod yn bodloni rhai amodau. I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.

Palmantu gerddi blaen

Os byddwch yn palmantu eich gardd flaen, a bod y gwaith yn cael ei wneud drwy ddefnyddio deunydd sy'n gadael i ddŵr gael ei amsugno i'r ddaear, ni fydd angen caniatâd cynllunio arnoch. Bydd angen caniatâd cynllunio arnoch i greu dreif anhydraidd traddodiadol mwy na phum metr sgwâr a fyddai'n gadael i ddŵr glaw lifo ar y ffyrdd ac a allai gyfrannu at orlifo.

Trawsnewid garej

Ni fydd angen caniatâd cynllunio fel arfer, cyn belled mai mewnol yw'r gwaith ac nad yw'n golygu gwneud yr adeilad yn fwy.

Newidiadau i brosiectau adeiladu cyffredin eraill

Mae newidiadau i reoliadau datblygu yn effeithio ar brosiectau adeiladu eraill megis:

  • ystafelloedd haul
  • paneli solar
  • tai allan - fel tai gwydr a siediau
  • addasiadau i do

I gael gwybodaeth am y prosiectau adeiladu hyn ac i ddefnyddio canllaw rhyngweithiol, gweledol ar reoliadau adeiladu a chynllunio, dilynwch y dolenni isod.

Os nad ydych yn siŵr a oes angen caniatâd cynllunio ai peidio

Os byddwch yn adeiladu rhywbeth y mae angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer heb gael caniatâd yn gyntaf, efallai y bydd yn rhaid i chi unioni pethau yn ddiweddarach, a allai fod yn gostus. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch ag adran gynllunio eich awdurdod lleol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU