Does dim rhaid i chi eich hun wneud cais cynllunio. Os dymunwch, gallwch benodi asiant (er enghraifft, pensaer, twrnai neu adeiladwr) i wneud y cais ar eich rhan. Gall unrhyw un wneud cais, ni waeth pwy sy'n berchen ar y tir neu'r adeiladau perthnasol.
Os nad ydych chi'n berchen ar yr eiddo, neu os mai dim ond rhan o'r eiddo sy'n berchen i chi, rhaid i chi roi gwybod i'r perchennog neu i'r sawl sy'n rhannu'r berchnogaeth, gan gynnwys unrhyw lesddeiliaid sydd â phrydles â saith mlynedd neu ragor i redeg, ac unrhyw denant amaethyddol.
Os ydych yn meddwl y bydd angen ichi wneud cais am ganiatâd cynllunio, cysylltwch ag adran gynllunio eich cyngor.
Os ydyn nhw’n meddwl y bydd angen ichi wneud cais am ganiatâd cynllunio, gofynnwch iddynt am ffurflen gais. Fe ddywedant wrthych sawl copi o’r ffurflen y bydd angen ichi eu hanfon yn ôl a faint fydd y tâl am y cais. Gofynnwch a ydyn nhw’n rhagweld unrhyw anawsterau, y gellid eu goresgyn drwy addasu’ch cynnig. Gall arbed amser neu drafferth yn nes ymlaen os bydd eich cynigion yn adlewyrchu’r hyn yr hoffai’r cyngor ei weld hefyd.
Dewiswch y cais priodol sydd angen i chi ei wneud. Cais llawn fydd hwn gan amlaf. Ond mae rhai amgylchiadau pryd y gallech fod eisiau gwneud cais amlinellol – er enghraifft, os oes arnoch chi eisiau gweld beth mae’r cyngor yn ei feddwl am y gwaith adeiladu yr ydych yn bwriadu’i wneud cyn mynd i’r drafferth o wneud lluniadau manwl (ond bydd yn rhaid ichi gyflwyno manylion yn nes ymlaen, beth bynnag). Yn achlysurol, am resymau cynllunio, gallai'r cyngor fynnu eich bod yn gwneud cais llawn er y byddai'n well gennych wneud cais amlinellol.
Anfonwch y ffurflenni cais wedi’u llenwi i’ch cyngor, ynghyd â’r tâl cywir. Rhaid anfon cynllun o’r safle gyda phob ffurflen ynghyd â chopi o’r lluniadau’n dangos y gwaith y bwriadwch ei wneud.
Gallwch ddefnyddio'r ddolen isod a fydd yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yn mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Os ydych yn bwriadu gwneud unrhyw waith adeiladu, dymchwel neu brosiect adeiladu, rhaid i chi wneud cais i'ch cyngor lleol. Bydd yr adran cynllunio'n penderfynu a gewch chi wneud y gwaith ai peidio. Gelwir hyn yn 'rhoi caniatâd cynllunio'.
Cofnodir penderfyniadau yn y Gofrestr Penderfyniadau Statudol. Gosodir amodau ar lawer o geisiadau a gymeradwyir. Dylai'r gofrestr hefyd gynnig arweiniad ar yr hyn y dylech ei wneud os nad ydych chi'n hapus â'r penderfyniad. Oni bai fod y Gofrestr Penderfyniadau Statudol yn nodi fel arall, gall gwaith datblygu y cytunwyd arno yn y gorffennol ddechrau unrhyw bryd o fewn tair blynedd i'r dyddiad y rhoddwyd y caniatâd. Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael rhagor o fanylion am ddatblygiadau sydd wedi cael eu cymeradwyo o'r blaen.
Mae Cofrestr Penderfyniadau Statudol llawer o gynghorau lleol ar gael ar eu gwefan; fodd bynnag, dylech hefyd allu holi dros y ffôn neu fynd i'r dderbynfa gyhoeddus eich hun i holi. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
If you are looking for planning applications in your area you can also use the Planning Portal's National Planning Application Register, which allows you to search for planning applications and decisions in England and Wales.
Bydd y cyngor yn ceisio penderfynu ar eich cais o fewn wyth wythnos. Os na all wneud hynny, bydd fel arfer yn ceisio cael eich caniatâd ysgrifenedig chi i ymestyn y cyfnod. Er enghraifft, gallai hyn ddigwydd os oes materion cymhleth i'w datrys neu os effeithir ar lawer o bobl gan y datblygiad arfaethedig.
Gallwch yn awr wneud cais cynllunio ar-lein gyda'r Porth Cynllunio (os yw'ch cyngor lleol yn cymryd rhan yn y cynllun).
Mae'n eich galluogi i greu cais cynllunio a'i anfon yn electronig i'ch awdurdod cynllunio lleol ynghyd ag unrhyw atodiadau, neu lenwi'r ffurflenni ar eich cyfrifiadur, ac wedyn eu hargraffu a'u hanfon drwy'r post fel rhan o gais papur traddodiadol.
Trefnir gwaith adeiladu cyhoeddus sy'n effeithio ar fusnesau a phreswylwyr lleol ar sail canlyniadau ymgynghori â'r cyhoedd. Gofynnwch i'ch cyngor lleol am fanylion.
Gallwch gael cyngor a chefnogaeth am faterion cynllunio gan ymgynghorwyr cynllunio neu Wasanaethau Planning Aid.
Cewch enwau ymgynghorwyr trwy'r Cyfeiriadur Ymgynghorwyr Cynllunio Ar-lein sy'n rhestru ryw 460 o ymgynghorwyr sy'n darparu arbenigedd ymhob maes cynllunio.
Gwasanaeth gwirfoddol yw Planning Aid sy'n cynnig cyngor proffesiynol, annibynnol a di-dâl ar faterion cynllunio trefol i grwpiau cymunedol ac unigolion nad ydynt yn gallu fforddio cyflogi ymgynghorydd cynllunio.