Pa un a oes angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio neu beidio, dylech feddwl am y canlynol cyn ichi ddechrau gweithio.
Soniwch wrth eich cymdogion am y gwaith yr ydych yn bwriadu ei wneud ar eich eiddo. Maent yn debygol o fod yn bryderus am waith a allai effeithio arnynt hwy fel y byddech chithau ynghylch unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eich mwynhad personol chi o'ch eiddo. Er y gallai'r hyn yr ydych am ei wneud fod yn gyfreithlon o safbwynt cynllunio, does dim diben ypsetio'r cymdogion os gellid dod i gyfaddawd.
Meddyliwch yn ofalus ynghylch sut olwg fydd i'ch eiddo ar ôl cwblhau'r gwaith. Mae chwaeth pawb yn wahanol a bydd arddulliau gwahanol yn addas i wahanol fathau o eiddo. Serch hynny, mae adeilad neu estyniad wedi'i ddylunio'n dda yn debygol o fod yn llawer mwy deniadol i chi a'ch cymdogion, mae hefyd yn debygol o ychwanegu gwerth i'ch cartref pan fyddwch yn ei werthu.
Gall addasiadau ac estyniadau i'ch cartref eich gwneud yn fwy agored i droseddu nag y tybiwch. Sicrhewch fod eich cartref yn ddiogel rhag lladron a chymerwch rhai rhagofalon megis gosod cloeon diogelwch ar ffenestri. Gall y swyddog atal troseddu yn eich swyddfa heddlu leol ddarparu cyngor gwerthfawr ar ffyrdd o leihau'r risg.
Nid yw golau ei hun, na gosodiadau golau domestig bychain, yn rhwym wrth reolaethau cynllunio. Serch hynny, os ydych yn bwriadu gosod goleuadau allanol ar gyfer diogelwch neu ddibenion eraill, dylech sicrhau nad yw cyfeiriad a chryfder y golau yn tarfu ar eraill.
Mae'n bosibl y bydd cyfamodau neu gyfyngiadau eraill yn y teitl i'ch eiddo, neu amodau mewn prydles, yn golygu y bydd yn rhaid i chi gael cytundeb rhywun arall cyn gwneud rhai mathau o waith ar eich eiddo. Efallai bod hyn yn wir er nad oes yn rhaid i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio. Gallwch ymchwilio i hyn eich hun, neu ymgynghori â thwrnai. Gallech ganfod hefyd fod gan rhai mathau o eiddo hawliau hanesyddol.
Pa un a oes angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio neu beidio, efallai y bydd yn rhaid i chi gael cymeradwyaethau neu gydsyniadau eraill cyn ichi ddechrau gweithio.